Llwyddiant mewn gŵyl i fyfyrwyr yr Academi Cerddoriaeth

Mae myfyrwyr o Academi Cerddoriaeth Grŵp Colegau NPTC wedi bod yn syfrdanu cynulleidfaoedd yng Ngŵyl Genedlaethol Cerddoriaeth Ieuenctid yn Birmingham. Mae’r ŵyl pum diwrnod yn cynnwys cerddoriaeth fyw gan gerddorion ifanc pres, clasurol, gwerin, corawl a chyfoes y DU. Perfformiodd pum ensemble o Goleg Castell-nedd mewn adeiladau a lleoliadau o’r radd flaenaf ar draws y ddinas.

Perfformiodd Ensemble Pres ac Offerynnau Taro y Coleg yn y Royal  Birmingham Conservatoire, chwaraeodd Band Blwyddyn 2 BTEC, y Band Ffync a’r Ensemble Lleisiol i gyd yn yr Ŵyl Ymylol, a syfrdanodd y Band Jazz Cyfun y mentoriaid cerddoriaeth yn Neuadd y Dref.

Mae Vicky Burroughs, Pennaeth yr Ysgol Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio, yn falch o’r hyn y gwnaeth y myfyrwyr ei gyflawni. Dywedodd: “Cafodd y myfyrwyr amser anhygoel, a chafodd bob un adborth cadarnhaol a chalonogol gan y beirniaid. Gan gofio bod tua 8,000 o gerddorion ifanc yn yr ŵyl, mae hwn yn gyflawniad rhyfeddol y dylai’r myfyrwyr dan sylw fod yn falch iawn ohono. Mae’r sylwadau hyn hefyd yn tynnu sylw at waith caled ac ymroddiad y staff yn yr Academi Cerddoriaeth sy’n cynhyrchu cerddorion o’r fath ansawdd uchel yn gyson.”

Mae’r Academi Cerddoriaeth yn rhoi cyfleoedd i bob myfyriwr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol ac i berfformio ar lefel genedlaethol a lleol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae myfyrwyr hefyd wedi perfformio ledled Ewrop yn Barcelona, Awstria, Disneyland Paris, Berlin ac Amsterdam.

Bydd perfformiadau nesaf y grwpiau ensemble ym mis Medi yn Sioe Calon y Cwm ym Mhontardawe, a fydd yn ddechrau blwyddyn gyffrous arall yn yr Academi Cerddoriaeth.