Y brodyr James yn dathlu llwyddiant

Roedd yn ddiwrnod gwych i’r teulu James yng Ngrŵp Colegau NPTC, wrth i ddau frawd gymhwyso fel technegwyr cerbydau modur gyda’i gilydd.

Cwblhaodd Thomas a Cameron James brentisiaethau gyda thîm dysgu yn y gwaith Llwybrau Grŵp Colegau NPTC ac ennill eu cymwysterau Lefel 2 a 3.

Gweithiodd y brodyr gyda’u tad yn ET James, y busnes teuluol yn Rhaeadr, gwerthwyr KTM a Suzuki gyda thechnegwyr priodol gymwys ar gyfer cynnal gwaith gwasanaethu ac atgyweirio. Mae’r garej hefyd yn ganolfan profion MOT gymeradwy DVSA.

Ar y safle, gwaith Thomas a Cameron yw atgyweirio, cynnal a chadw a diagnosteg ar gyfer cerbydau ysgafn.

Mae hyfforddiant pellach ar y gweill ar gyfer y brodyr James, wrth iddynt anelu at fod yn brofwyr MOT cwbl gymwys a bwrw ymlaen â’u Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer arferion technegwyr gweithdy cyffredinol.

Mae llwyddiant Thomas a Cameron yn dilyn ymlaen o’n hadroddiad cadarnhaol gan Estyn eleni, lle y cafodd prentisiaid Coleg y Drenewydd gymeradwyaeth wresog gan Arolygiaeth Ei Mawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Nododd yr arolygiad bod “cyflogwyr yn cefnogi eu dysgwyr yn dda ac yn darparu profiadau dysgu cadarnhaol i’w dysgwyr, a bod “gan bron bob un o’r aseswyr doreth o arbenigedd ac maent yn adnabod eu maes dysgu yn arbennig o dda.”

Crynhodd Estyn y bartneriaeth gan ddweud ei bod ‘wedi’i sefydlu’n dda ac yn aeddfed gyda chyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth glir.’ Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu gwaith dysgwyr yn y gymuned, gan gydnabod y diddordeb cadarnhaol a’r cyfraniadau cynhyrchiol a wnaed i ystod eang o brosiectau cymunedol.

Cliciwch yma i gael gwybod rhagor am y prentisiaethau sydd ar gael yng Ngrŵp Colegau NPTC

Gallwch hefyd gysylltu â’n Tîm Llwybrau ar 01686 614253.