Coleg yn cyhoeddi partneriaeth newydd gyda Hoci Cymru

Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch i gyhoeddi partneriaeth newydd gyda Hoci Cymru, lle bydd ei golegau ym Mhowys yn gweithio gydag Academi Hyfforddwyr Ifanc Powys.

Mae Hoci Cymru wedi gweithio’n agos gyda Choleg Bannau Brycheiniog yn y gorffennol, a nawr, ynghyd â Choleg y Drenewydd, bydd myfyrwyr yn rhan o gronfa o hyfforddwyr fydd yn gweithio gydag ysgolion cynradd ar draws y sir.

Fel rhan o’r cytundeb, bydd y ddau goleg yn cefnogi prosiectau fel ‘Hooked on Hoci’, a nod yr Academi Hyfforddwyr Ifanc yw cynnig cyfleoedd hyfforddi, sesiynau datblygu a chymorth parhaus i’r garfan newydd o hyfforddwyr 14 – 21 oed ar draws Powys.

Bydd myfyrwyr yn cyflwyno sesiynau ‘Hooked on Hoci’ mewn ysgolion cynradd yn eu hardaloedd eu hunain, gan gael profiad hyfforddi gwych ochr yn ochr ag un o sefydliadau chwaraeon cenedlaethol Cymru.

Mae gan y ddau barti bresenoldeb cryf yng Nghanolbarth Cymru. Mae gan Hoci Cymru Swyddog Datblygu Clybiau yn benodol ar gyfer yr ardal, ac mae gan Grŵp Colegau NPTC ddau goleg yn Aberhonddu ac yn y Drenewydd.

Mae Hoci Cymru a Grŵp Colegau NPTC wedi ymrwymo i wella bywydau pobl ifanc ar draws Cymru a thu hwnt.

Dywedodd Elliot Pottinger, Swyddog Datblygu Clybiau Hoci Cymru (Canolbarth Cymru): “Mae tyfu a gwella’r gweithlu yn un elfen allweddol o sicrhau y  gall Hoci Cymru wella bywydau pobl ar draws y wlad.

“Mae Academi Hyfforddwyr Ifanc Powys yn dynodi dechrau strwythur gefnogi gadarnhaol i bobl ifanc sy’n dechrau ar eu taith hyfforddi. Un prif nod yw helpu myfyrwyr Grŵp Colegau  NPTC i ddod yn bobl ifanc mwy hyderus a galluog, boed hynny wrth iddynt hyfforddi neu mewn agweddau eraill ar eu bywydau.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda Grŵp Colegau NPTC i brofi dull ychydig yn wahanol o ran datblygu hyfforddwyr, gan gefnogi hyfforddwyr dros gyfnod hwy o amser nag arfer i sicrhau eu bod yn gyfforddus gyda chyflwyno ac yn eiriolwyr ardderchog dros y gamp.”