Dangosodd myfyrwyr sy’n astudio cwrs arlwyo yng Ngholeg Y Drenewydd nad oedd ofn arnynt wrth wynebu’r gwres yn y gegin, ar ôl ennill medalau Arian ac Efydd ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru yng Ngholeg Llandrillo, sef pencampwriaethau a gynhelir yn flynyddol.
Llwyddodd Alice Yeoman, 18 oed o Forth a Katie Sinclair, 19 oed o’r Drenewydd i ennill medalau Arian ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru a ddyluniwyd i ddathlu sgiliau coginio’r genedl a detholiad cyfoethog o fwydydd o ansawdd.
Enillodd Katie y wobr Arian am gystadlu yn y gystadleuaeth Cacennau Cwpan Rhagorol, ac enillwyd Gwobr Arian mewn Coginio Uwch ganddi fel rhan o’r Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a derbyniodd ddwy wobr Arian arall a dwy wobr efydd arall gan y beirniaid mewn cydnabyddiaeth o’i chyflawniadau rhagorol ar ddiwrnod y gystadleuaeth.
Roedd Stephanie Williams, 21 oed o Lanidloes yn llwyddiannus hefyd ar y diwrnod ac enillodd fedal Efydd am Brif Gwrs Cig Oen Cymreig a Her Fawr Cyw Iâr.
Bydd Alice yn cystadlu ‘nawr yn y Gystadleuaeth Coginio Uwch Worldksills UK a dywedodd ei bod hi’n mwynhau cymryd rhan yn y cystadlaethau a’i bod h’n edrych ymlaen at y cam nesaf yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2018.
Dywedodd Shaun Bailey, y darlithydd a oedd wedi gweithio gyda’r merched i’w helpu i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth ei fod yn falch iawn fod popeth wedi mynd yn dda ar y diwrnod ac ychwanegodd: ‘Roedd y merched wedi gweithio’n galed i weithio’n fwy effeithiol i sicrhau eu bod nhw’n gweithio’n dda i gynhyrchu safon dda o fewn i’r terfynau amser. Mae gan Shaun brofiad helaeth o gystadlaethau coginio a bu’n feirniad yn y gorffennol ar gyfer Pencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru.
Dywedodd Mandy Carter y darlithydd a aeth i’r digwyddiad gyda’r merched ei bod hi’n’ falch iawn o ganlyniadau’r merched.’