Cyrraedd y brig gyda’r marciau gorau yn Her Ymddiriedolaeth Mathemateg y DU

Cyflawnodd myfyrwyr Safon UG/U o’r Grŵp Colegau NPTC farciau uchel yn Her Ymddiriedolaeth Mathemateg y DU a llwyddodd y myfyrwyr i ennill llu o wobrau gan gynnwys 13 gwobr efydd, un wobr arian a dwy dystysgrif aur.

Cynhelir yr heriau hyn bob blwyddyn gan Ymddiriedolaeth Mathemateg y DU, sef elusen gofrestredig sy’n anelu at wella addysg plant a phobl ifanc ym maes mathemateg. Mae’r cwestiynau yn annog rhesymu mathemateg, manylder meddwl a rhuglder drwy hybu myfyrwyr i ddefnyddio technegau mathemateg i ddatrys problemau.

Cyflwynwyd sgriptiau gan fwy na 82,000 o ddisgyblion ar draws y DU a llwyddodd 10% i gyflawni gradd aur, cyflawnodd 20% radd arian a chafodd 30% radd efydd.

Dywedodd Tessa Jennings sef Pennaeth Academi’r Chweched Dosbarth, Grŵp Colegau NPTC: “Mae’r cyflawniadau rhagorol hyn yn pwysleisio doniau ein myfyrwyr mewn Mathemateg yn y gystadleuaeth genedlaethol hon ac rydyn ni wrth ein bodd i’w gwobrwyo gyda’u tystysgrifau.

At hynny, dewiswyd 6,000 o ymgeiswyr i gymryd rhan yn yr her ‘Senior Kangaroo’. Gwahoddwyd myfyrwyr academaidd Matthew Lawrence a Stephen Owen O’ Sullivan, i gymryd rhan yn yr her ychwanegol. Llwyddodd Matthew, sydd erbyn hyn yn astudio cymhwyster UG mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach, Ffiseg a Chemeg, i gyflawni gradd teilyngdod sy’n cael eu rhoi i 25% o fyfyrwyr sef y myfyrwyr a gyflawnodd i’r eithaf.  Derbyniodd Matthew a Stephen eu tystysgrifau am eu cyflawniadau yn yr arholiadau a oedd yn cynnwys Aur, Teilyngdod a Myfyriwr y Flwyddyn.

Dyma rai o’r myfyrwyr a enillodd dystysgrifau:

Aur

Matthew Lawrence

Stephen Owen O’Sullivan

 

Arian

Jack Holmes

 

Efydd

Daniel Sarsfield

Katie Davies

Madison Davies

Tomas Coles

Ewan Partington

Ffion Davies

Kiera Seacombe

Aeron Morgan

Rhys Phillips

Aaron Walters

Tyler Joseph

Ffion Hart

Freya Kinsey