Ymweliad Cyfnewid Wilhelm Maybach Schule Heilbronn

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi croesawu myfyrwyr o’r Wilhelm Maybach Schule, coleg technegol a leolir yn Heilbronn, yr Almaen.  Cynhaliwyd yr ymweliad cyfnewid cyntaf yn 1976 ac mae’r ymweliadau yn eu hail flwyddyn a deugain erbyn hyn.

Croesawyd y myfyrwyr gan yr adrannau Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu, Adeiladwaith a Pheirianneg. Roedd pawb yn gweithio ar brosiect a oedd yn para am bythefnos ac a oedd yn defnyddio’r feddalwedd ddylunio Revit 3D VR a Loxone sef cyfarpar awtomatiaeth ar gyfer cartrefi i ddylunio cartrefi’r dyfodol drwy osod system a oedd yn cynnwys dyfeisiau technoleg smart i ddarparu technoleg rheoli’r amgylchedd a chysur drwy gyfrwng y Rhyngrwyd.

Mae’r ymweliadau cyfnewid llwyddiannus wedi digwydd bob blwyddyn yn olynol wrth uno Heilbronn â Grŵp Colegau NPTC ac anelwn at wella, datblygu a chyfnewid sgiliau ieithyddol y myfyrwyr, sgiliau technegol a hyder, ar yr un pryd ag ennill cymhwyster achrededig yn y maes pwnc perthnasol ynghyd ag ymchwilio diwylliannau amrywiol o fewn i’r gymuned Ewropeaidd.

Roedd 8 myfyriwr yn gweithio fel dau dîm i greu atebion amgen i reoli systemau ynni smart mewn cartrefi, drwy gyfrwng dyfeisiau o bell. Meddyliodd y myfyrwyr am syniadau blaenllaw i reoli tymheredd a dyfeisiau goleuo i wella effeithlonrwydd ynni gartref. Cyflwynwyd eu syniadau drwy ddefnyddio dyfeisiau cylched wedi’u hintegreiddio a thrwy greu prototeip gweledol wrth ddefnyddio meddalwedd CAD (Cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur).

Yn ystod eu hymweliad i’r DU, roedd y myfyrwyr yn archwilio diwylliant Cymru drwy ddysgu am weithgareddau chwaraeon, bwydydd lleol ac aeth y myfyrwyr i weld arfordir Gorllewin Cymru. Llwyddodd yr ymweliad cyfnewid i roi cefndir diwylliannol cyfoethog i’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan, yn eu maes pwnc, am fod sgyrsiau yn yr ystafell ddosbarth a gweithgareddau wedi’u trefnu yn rhoi blas ar draddodiadau ledled Cymru ac ym maes Peirianneg yn benodol.

Roedd Ian Lumsdaine, Cyfarwyddwr Astudiaethau – Adeiladwaith, Yr Amgylchedd Adeiledig a Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu, wrth ei fodd i groesawu’n ôl myfyrwyr a staff o’r coleg technegol a dywedodd: “Mae’r bartneriaeth rhwng y ddau goleg yn ddull ffantastig o gyfuno’r ymarferion a’r dulliau addysgu a ddefnyddir yn Ewrop. Hoffwn i hefyd ddweud diolch i’n staff profiadol sydd wedi cefnogi’r ymweliad cyfnewid i’r dim, drwy helpu’r myfyrwyr o’r Almaen i ennill sgiliau a fydd yn eu helpu yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol, sgiliau y gellir eu mynd â nhw adref dros y môr.  Dyma berthynas ryngwladol a bydd yn para am flynyddoedd gobeithio.”