Mae popeth yn ‘Dda’ yn Academi Sgiliau Cymru – ac mae hynny’n swyddogol!

Mae prentisiaethau mewn dwylo diogel yn Academi Sgiliau Cymru am fod Estyn, sef Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru wedi barnu bod y safonau’n ‘Dda’ drwodd draw, ar ôl ei harolygiad yn gynharach eleni.

Mae Academi Sgiliau Cymru (SAW) yn gonsortiwm seiliedig ar waith gyda Grŵp Colegau NPTC wrth y llyw. Fe’i sefydlwyd yn 2009 ac mae’n un o’r darparwyr prentisiaethau mwyaf blaenllaw yng Nghymru wrth ddarparu cyfleoedd prentisiaeth o ansawdd uchel ar draws mwy na 30 o feysydd galwedigaethol.  Mae’r partneriaid yn cynnwys ACO Training Ltd; Coleg-y-Cymoedd; Gweithlu Cymru; Learn-kit Ltd; LRC Training; Sgiliau a Hyfforddiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Swansea Itec Ltd. Dyma’r consortiwm seiliedig ar waith cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Yn ôl y crynodeb gan Estyn, mae’r bartneriaeth yn un gadarn ac aeddfed gydag arweinyddiaeth a llwybr strategol clir. Mae ei adroddiad hefyd yn ffocysu ar waith caled y dysgwyr o fewn i’r gymuned gan adnabod y diddordeb cadarnhaol a’r cyfraniadau buddiol a wnaethpwyd i amrywiaeth helaeth o brosiectau cymunedol.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC: “Mae’r adroddiad yn adlewyrchiad gwych o ymrwymiad, blaengarwch a brwdfrydedd ein dysgwyr, ein staff a’n partneriaid.  Mae Academi Sgiliau Cymru yn bartneriaeth ein bod ni’n falch o fod yn rhan ohoni, wrth roi sgiliau allweddol i’n dysgwyr mewn llu o sectorau er mwyn eu galluogi i geisio swyddi yn yr economi sydd ohoni.  Mae rhaid i ni gydnabod yr holl waith caled gan ein haseswyr i gyd sy’n darparu profiad dysgu wedi’i deilwra’n arbennig ynghyd â chynnig cymorth unigolyddol i bob dysgwr.  Rydyn ni hefyd yn falch o’r gwaith elusennol amrywiol sy’n cael ei wneud gan ein dysgwyr i helpu eu cymuned leol.”

Gyda gradd ‘Da’ ym mhob un o’r meysydd arolygu, mae hyn yn adlewyrchu safonau uchel y consortiwm o safbwynt academaidd a bugeiliol: yn rhoi cyfle i bob un dysgwr gyflawni i’w eithaf. Mae’r Arolygwyr yn adleisio’r uchelgais hon yn eu canfyddiadau a’u hargymhellion a oedd fel a ganlyn:

“Mae cyflogwyr yn cefnogi eu dysgwyr yn dda gan ddarparu profiadau dysgu cadarnhaol ar gyfer eu dysgwyr.  Mae gan bron pob un o’r aseswyr wybodaeth arbenigol helaeth ac maent yn gyfarwydd iawn â’u meysydd dysgu perthnasol.

“Mae dysgwyr yn cyflawni eu fframweithiau prentisiaeth a phrentisiaeth Sylfaen yn ôl cyfradd gadarn ac mae cymwysterau eraill yn gadarn ac wedi cwrdd â’r cyfartaledd ar gyfer y sector neu wedi bod yn well na’r cyffredin am y tair blynedd ddiwethaf. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r cyfraddau llwyddo mewn rhaglenni prentisiaethau uwch yn well na’r cyffredin yn y sector.

“Mae gan Academi Sgiliau Cymru bartneriaethau hefyd gyda Gyrfa Cymru ac ysgolion lleol i sicrhau bod darpar-ddysgwyr yn derbyn cyngor a chyfarwyddyd priodol o ran y cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael iddynt.”  [ESTYN, Mawrth 2018, dyddiad cyhoeddi 13 Mawrth 2018].

Roedd canfyddiadau Estyn i gyd yn Dda ar draws pob maes, a oedd yn cynnwys Safonau; Lles ac agweddau tuag at ddysgu; Profiadau dysgu ac addysgu; Gofal, cymorth a chyfarwyddyd: Arweinyddiaeth a rheolaeth.