Dweud eich dweud am les yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi ymuno â sefydliadau statudol lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot i greu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Lleol (PSB) ac mae lles yn yr ardal yn y dyfodol ar yr agenda.

Ym mis Mai 2017, cyhoeddodd y Bwrdd asesiad o les a luniwyd ar sail gwaith cynnwys ac holi helaeth gyda phreswylwyr a rhanddeiliaid ac ystyriaeth o wybodaeth berthnasol, megis data, tystiolaeth ac ymchwil sydd eisoes gennym.  Mae’r asesiad yn nodi cryfderau ac asedau pobl a chymunedau ar draws Castell-nedd a Phort Talbot, gan ddisgrifio’r heriau sy’n wynebu Castell-nedd Port Talbot ar hyn o bryd ond hefyd y cyfleoedd a geir yn y dyfodol o ran gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’r asesiad hwn bellach wedi dylanwadu ar y blaenoriaethau drafft y mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn awgrymu y dylid canolbwyntio arnynt er mwyn gwella lles, a byddem yn ddiolchgar iawni gael eich barn ar briodoldeb y blaenoriaethau hyn.

Gweler ynghlwm gopi o’r Cynllun Lles Drafft. Ceir arolwg yr ymgynghoriad a mwy o wybodaeth ynghylch Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot (BGC) yma; https://www.npt.gov.uk/5808?lang=cy-gb

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Iau, 1 Chwefror 2018 a chaiff canlyniadau’r ymgynghoriad eu defnyddio i lywio’r Cynllun Lles terfynol a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot cyn mis Mai 2018.

Sylwch os gwelwch yn dda fod yr ymgynghoriad ar gael mewn fformatau eraill fel y bo’r angen  – cysylltwch â Sharon Roberts: sharon.roberts@nptcgroup.ac.uk.

I ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn Saesneg , cliciwch yma os gwelwch yn dda