Mae Harri yn ysbrydoliaeth

Er ei fod yn 18 mlwydd oed yn unig, mae myfyriwr Coleg Castell-nedd Harri Evans-Mason yn ysbrydoli pawb sy’n cwrdd ag ef.

Mae Harri wedi derbyn gwobr o fri gan Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot (CVS) mewn cydnabyddiaeth o’r ffaith ei fod yn wirfoddolwr gwych ac effeithiol.

Roedd yr AM dros Gastell-nedd, Jeremy Miles, hefyd yn son am Harri mewn sesiwn yn y Senedd wrth gyfeirio at y nifer helaeth o raglenni gwirfoddol llwyddiannus yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd wedi’i ysbrydoli ac mae Harri yn esiampl ffantastig yn ei farn ef.

“Yn 18 oed, mae wedi rhoi sut cymaint o’i amser ei hun yn barod ac wrth wneud hynny mae wedi ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un peth. Dyma rai o’r llu o unigolion a sefydliadau sy’n rhoi cymaint bob dydd ac yn aml yn trawsnewid bywydau pobl eraill,”meddai Mr Miles.

Mae Harri, sydd ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer cymhwyster Safon U mewn Busnes Cymhwysol a Bagloriaeth Cymru yng Ngholeg Castell-nedd hefyd yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn y coleg ac roedd yn rhan annatod o’r broses o ddatblygu ei gyfansoddiad a hybu etholiadau Undeb y Myfyrwyr yn ddiweddar. Mae hefyd wedi bod yn aelod o fwrdd yr Uned Hawliau Plant Castell-nedd Port Talbot am ddwy flynedd lle y mae wedi datblygu a darparu hyfforddiant achrededig yr Ymddiriedolwr Ifanc i ystod eang o bobl ifanc; mae hefyd yn Llywydd Interact sef adran ieuenctid Clwb Rotary Castell-nedd; ef yw’r cynrychiolydd ieuenctid ar gyfer Cyngor Tref Pontardawe; PACT Ieuenctid ac yn aelod o fwrdd ieuenctid Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) a sefydlwyd yn ddiweddar.

Yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr cyflwynwyd gwobr o fri sef Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Debbie Connolly i Harri gan Mrs Margaret Thorne CBE DL sydd yn llywydd CVS. Tynnodd y wobr sylw at ei waith i annog ymgysylltiad a chyfranogiad pobl ifanc i gael iddynt ddweud eu dweud er mwyn dylanwadu ar a llywio polisïau a phrosesau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Dywedodd Gaynor Richards, Cyfarwyddwr CVS Castell-nedd Port Talbot: “Mae Harri yn wirfoddolwr ifanc eithriadol ac rydyn ni’n falch ei fod wedi derbyn y wobr arbennig hon sy’n cydnabod yr ymrwymiad anhygoel y mae wedi ei roi i gefnogi ac annog pobl eraill trwy ei waith gwirfoddol; Mae’n esiampl enfawr i bob un ohonon ni ac yn ysbrydoliaeth go iawn. ”

Dywedodd Sian Jones, Is-bennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr: ”Mae Harri yn glod i’r Coleg Mae ei waith caled a’i ymrwymiad i helpu pobl eraill wedi cael eu cydnabod ac rydyn ni wrth ein bodd am ei fod wedi mynd ati’n gyson i hybu llais y myfyriwr yn y Coleg”.

Capsiwn ar gyfer y llun: Harri yn derbyn y wobr o fri sef Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Debbie Connolly gan Mrs Margaret Thorne CBE DL sydd yn llywydd CVS.