Mae Myfyrwyr Bannau Brycheiniog yn Ennill Ysgoloriaethau mewn Chwaraeon

Dau fyfyriwr sy’n astudio yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yw’r myfyrwyr diweddaraf i dderbyn yr Ysgoloriaeth mewn Chwaraeon/Astudiaethau Diwylliannol sef un o’r ysgoloriaethau sydd ar gael yng Ngrŵp Colegau NPTC.

Mae Jack Jones a Corey Evans sef myfyrwyr mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi derbyn £500 yr un am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i’w cyrsiau a’u gweithgareddau allgyrsiol.

Mae Jack yn awyddus o ymuno â’r heddlu yn y dyfodol.  Daeth i’r Coleg ar ôl cyflawni 9 cymhwyster TGAU Gradd A -C. Mae ei benderfyniad i lwyddo wedi bod yn amlwg o’r cychwyn cyntaf, o’r cyfnod sefydlu hyd yn oed ac mae ei bresenoldeb a’i brydlondeb wedi bod yn rhagorol ers iddo ddechrau’r cwrs.

Yn ei amser sbâr mae Jack yn hyfforddi a chystadlu gyda chymdeithas Shotokan Karate Cymru ac mae hefyd wedi bod yn llwyddiannus dros ben yn y treialon cŵn defaid yng Nghymru!

Mae llwyddo i gyfuno’i astudiaethau â gweithgareddau allgyrsiol, ynghyd â gweithio ar fferm ei deulu yn gwneud Jack yn unigolyn sy’n haeddu’r ysgoloriaeth yn fawr iawn a gall Jack fod yn falch iawn o’i holl ymdrechion hyd yn hyn.

Ar yr un pryd, mae Corey hefyd wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff yng Ngholeg Bannau Brycheiniog.

Mae wedi gweithio’n arbennig o galed ac mae ei waith o safon uchel iawn drwy’r amser, a gobeithio y bydd yn gorffen ei gwrs gyda gradd clod triphlyg yn ôl y disgwyl.

Mae Corey yn sbortsmon brwdfrydig sydd wedi cynrychioli’r Coleg mewn twrnameintiau ar draws y wlad.

Mae e’n chwaraewr naturiol a thalentog mewn nifer o chwaraeon ac ym mis Ebrill, bydd e’n teithio i’r Tŷ Ogofog i gynrychioli’r Coleg mewn twrnamaint pêl foli cenedlaethol.

Mae Corey hefyd wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r gymuned leol, drwy hyfforddi disgyblion ysgolion cynradd a gweithio gyda myfyrwyr ag anawsterau dysgu.

Mae ei benderfyniad i lwyddo yn ei wneud yn llysgennad gwych ar gyfer y Coleg a gall Corey hefyd fod yn falch o’i ysgoloriaeth a’i amser gyda ni hyd yn hyn.

Mae gennym nifer o gyfleoedd am ysgoloriaethau yma yng Ngrŵp Colegau NPTC ynghyd ag amrywiaeth o gyrsiau i’ch helpu gyda’ch gyrfa. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.nptcgroup.ac.uk