Cymorth Sgiliau TATA

Mae’r tîm yng Ngrŵp Colegau NPTC yn gobeithio bod o gymorth mewn unrhyw ffordd y gallwn i gefnogi’r heriau a wynebir gan weithwyr Tata ynghyd â’r gadwyn gyflenwi sy’n allweddol i’r economi ar draws ein hardal.

Gwerthfawrogwn fod y perygl o ddiswyddo a’r canlyniadau posibl o hyn yn gallu ymddangos yn ddychrynllyd. Rydym wedi cynllunio ystod o ddarpariaeth sector-benodol a allai eich helpu i benderfynu os mai newid gyrfa neu uwchsgilio neu ailsgilio yw’r cyfeiriad y mae angen ei ddilyn.

Mae ystod o opsiynau cyllido ar gael gennym.

MAE POB CWRS SY’N GYMWYS AM GYFRIF DYSGU UNIGOL (PLA) YN RHAD AC AM DDIM*

*Yn amodol ar Gymhwysedd

A wnewch chi gysylltu ag aelod o’r tîm a fydd yn eich helpu i ymchwilio i’ch cyfleoedd gyrfaoedd yn y dyfodol trwy hyfforddiant os gwelwch yn dda?

Mae rhai cyrsiau ar gael ar unwaith. Cysylltwch â ni am fanylion pellach