Beth yw’r Gronfa Ffyniant Gyffredin?
Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (UKSPF neu ‘Y Gronfa’) yn golofn ganolog o agenda Ffyniant uchelgeisiol llywodraeth y DU ac yn rhan arwyddocal o’r cymorth sydd ar gael ar gyfer llefydd ar draws y DU. Mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid newydd i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025 gyda phob ardal yn y DU yn derbyn dosbarthiad gan y Gronfa trwy fformiwla gyllido yn hytrach na gorfod cystadlu. Bydd yn helpu llefydd ar draws y wlad i ddarparu deilliannau gwell gan adnabod bod hyd yn oed yr ardaloedd mwyaf cyfoethog yn y DU yn cwmpasu pocedi o amddifadedd sydd eisiau cymorth.
Eisiau gwybod mwy?
Beth yw’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn anelu at gyflawni?
Bydd UKSPF yn cefnogi ymrwymiad ehangach llywodraeth y DU i alluogi ffyniant pob ardal o’r DU trwy gyflawni pob un o’r amcanion ffyniant:
- Hybu cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau bywyd trwy dyfu’r sector preifat, yn arbennig yn y llefydd lle y gwelir diffyg.
- Ehangu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig yn y llefydd lle y maent yn wynebu anawsterau
- Adfer ymdeimlad cymunedol, balchder lleol a pherthyn, yn arbennig yn y llefydd nad yw’r teimladau hyn i’w gweld bellach.
- Galluogi arweinwyr lleol a chymunedau, yn arbennig yn y llefydd lle y gwelir diffyg arweinyddiaeth leol.
Gweler ein hystod o brosiectau SPF cyfredol isod:
Lluosi – Materion Rhifedd
Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar gefnogi cyflogwyr lleol wrth ddatblygu sgiliau rhifedd eu gweithlu.
Datblygu Sgiliau Sero Net (Powys)
Mae’r prosiect hwn yn darparu cymorth wedi’i deilwra i gyflogwyr a gywbodaeth mewn perthynas â Datblygu Sgiliau Sero Net.
Inswleiddio Powys
Mae’r prosiect hwn yn anelu at greu capasiti yn yn sector gosodwyr lleol a chreu galw am inswleiddio tai ymhlith adeiladau ym Mhowys.
Gyrfaoedd Tyfu Canolbarth Cymru (Powys)
Mae’r prosiect hwn yn anelu at ddatblygu ap profiad gwaith a allai gael ei ddefnyddio gan gyflogwyr ac academyddion ym Mhowys.