Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs Lefel 2 mewn Weldio wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol uwch ac ennill cymhwyster achrededig mewn proses weldio unigol: MIG, TIG neu MMA. O dan arweiniad tiwtor profiadol, byddwch yn adeiladu ar eich gwybodaeth bresennol. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar weldio mewn safleoedd fertigol ac uwchben, gan eich ymbaratoi ar gyfer hyfforddiant pellach neu gyflogaeth mewn lleoliadau weldio a pheirianneg. Mae’r cwrs yn addas os hoffech wella eich dealltwriaeth dechnegol, eich cysondeb a’ch cywirdeb a symud ymlaen tuag at gymwysterau weldio ar lefel uwch.
Diwrnod ac amser: Dydd Mawrth, 5pm-9pm
Dyddiad dechrau: Mis Medi 2026 neu fis Ionawr 2027
Hyd: 16 wythnos
I bwy mae’r cwrs hwn?
• Dysgwyr sydd wedi cyflawni cwrs Lefel 1 mewn weldio yn llwyddiannus
• Oedolion â phrofiad blaenorol sylweddol mewn weldio sydd eisiau ennill cymhwyster ffurfiol
• Unigolion sy’n anelu at symud ymlaen i hyfforddiant uwch neu gyflogaeth ym maes weldio
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
• Theori ac egwyddorion weldio sy’n berthnasol i’ch proses o ddewis
• Gofynion iechyd a diogelwch mewn amgylchedd gweithdy
• Technegau weldio ymarferol mewn safleoedd fertigol ac uwchben
Ar ôl cwblhau, byddwch yn ennill cymhwyster Lefel 2 mewn weldio yn eich proses o ddewis, gan ddangos eich gallu i weithio’n ddiogel ac yn alluog mewn safleoedd weldio mwy cymhleth.
-
Gofynion Mynediad
Wedi cwblhau’r cwrs Lefel 1 mewn weldio yn llwyddiannus neu brofiad cyfwerth ym maes weldio.
-
Crynodeb o'r canlyniadau
Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus, efallai y byddwch yn symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3 Uwch mewn Weldio. Gall y cymhwyster hwn hefyd cefnogi symud ymlaen i rolau medrus o fewn i amgylcheddau ffabrigo, cynhyrchu neu beirianneg
-
Modiwlau’r cwrs
• Theori ac egwyddorion weldio
• Iechyd a diogelwch yn y gweithdy weldio
• Gosod a defnyddio cyfarpar yn gywir
• Weldio MIG, TIG neu MMA mewn safleoedd fertigol ac uwchben -
Dull Asesu
• Uniadau wedi’u weldio ac wedi’u cwblhau
• Arholiad cwestiynau ar lafar -
Costau Ychwanegol
Cyfarpar diogelu personol ar gyfer y gweithdy yn cynnwys oferôls gwrth-dân, esgidiau diogelu, sbectols diogelu, helmed a menig weldio.
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
16 Wythnos
Fee
£300.00 – funding available, subject to eligibility