Dysgu ac Addysgu

Cyflwyniad

Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli addysgu a dysgu o fewn y sefydliad, gan gynnwys mecanweithiau ar gyfer adolygu a sicrhau ansawdd yr addysgu a ddarperir.

7.1 Dyddiadau Academaidd

Disgrifiad:
Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys gwybodaeth am ddyddiadau’r tymhorau ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol, yn ogystal â blynyddoedd academaidd sydd i ddod (cyhyd â’u bod yn hysbys).

7.2 Gwybodaeth Bellach am Gyrsiau

Disgrifiad:
Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud ag ysgolion ac adrannau penodol, a hefyd gwybodaeth sy’n ymwneud â rhaglenni a chymwysterau.

  • Dyddiadau’r tymhorau
  • Strwythur y cyrsiau
  • Cymwysterau a enillir
  • Newid cyrsiau
  • Profiad gwaith

7.3 Gwybodaeth am weithdrefnau mewnol ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau academaidd

Disgrifiad:
Dylai’r dosbarth hwn gynnwys gwybodaeth am raglenni archwilio ansawdd mewnol ac adolygiad blynyddol y sefydliad. Dylai hefyd gynnwys gwybodaeth am weithdrefnau mewnol y coleg Addysg Bellach ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau academaidd. Mae enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnwys:

a) Gwybodaeth am gymeradwyo, monitro ac adolygu rhaglenni:

  • Manylebau rhaglenni
  • Prosesau monitro ac adolygu blynyddol
  • Adroddiadau achredu a monitro gan gyrff proffesiynol, statudol neu reoleiddiol

b) Gwybodaeth am weithdrefnau asesu a chanlyniadau:

  • Strategaethau, prosesau a gweithdrefnau asesu
  • Ystod a natur gwaith y myfyrwyr

c) Gwybodaeth am foddhad myfyrwyr â’u profiad yn y coleg, gan gwmpasu barn myfyrwyr ar:

  • Drefniadau ar gyfer cyfarwyddyd, cymorth a goruchwyliaeth academaidd a thiwtoraidd
  • Gwasanaethau llyfrgell a chymorth TG
  • Addasrwydd yr adeiladau, offer a’r cyfleusterau ar gyfer addysgu a dysgu
  • Canfyddiadau o ansawdd yr addysgu ac ystod y dulliau addysgu a dysgu
  • Trefniadau asesu
  • Ansawdd y cymorth bugeiliol

d) Gwybodaeth a thystiolaeth sydd ar gael i dimau sy’n ymgymryd ag adolygiadau mewnol o ansawdd a safonau mewn perthynas ag:

  • Effeithiolrwydd yr addysgu a’r dysgu, mewn perthynas â nodau’r rhaglenni a chynnwys y cwricwlwm wrth iddynt esblygu dros amser
  • Ystod y dulliau addysgu a ddefnyddir
  • Argaeledd a’r defnydd o offer arbenigol ac adnoddau a deunyddiau eraill i gefnogi addysgu a dysgu
  • Mynediad staff at ddatblygiad proffesiynol i wella eu perfformiad wrth addysgu, gan gynnwys rhaglenni arsylwi gan gymheiriaid a mentora.

Y defnydd o feincnodi allanol a chymaryddion eraill.

7.4 Strwythur staffio ysgolion / adrannau

Disgrifiad:
Dylai’r dosbarth hwn gynnwys gwybodaeth am rolau staff o fewn ysgolion ac adrannau, ynghyd â siartiau sefydliadol. Mae enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnwys:

  • Teitlau swyddi staff academaidd a staff cymorth
  • Manylion cyswllt ar gyfer pob ysgol / adran

7.5 Strategaeth Asesu Myfyrwyr

Disgrifiad:
Dylai’r dosbarth hwn gynnwys gwybodaeth am y rheoliadau a/neu’r polisi sy’n rheoli asesiadau myfyrwyr. Mae enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnwys:

  • Cyfnodau arholiadau
  • Rheoliadau arholiadau
  • Gweithdrefnau apelio
  • Polisi ar lên-ladrad
  • Cyrff arholi allanol

7.6 Ffioedd Dysgu

Disgrifiad:
Dylai’r dosbarth hwn gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr o’r DU, myfyrwyr o’r UE a myfyrwyr rhyngwladol eraill, gan gynnwys gwybodaeth ynglyn â phryd y bydd ffioedd dysgu yn daladwy a sut i dalu. Mae enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnwys:

  • Gwybodaeth i fyfyrwyr cartref / yr UE
  • Gwybodaeth i fyfyrwyr rhyngwladol
  • Gwybodaeth am daliadau eraill.