Cystadlaethau Sgiliau Cynhwysol Cymru a gynhaliwyd yng Ngholeg y Drenewydd

Roedd yn bleser gan Goleg y Drenewydd gynnal cystadlaethau Paratoi Bwyd, Gosod Byrddau, y Cyfryngau a TGCh Sgiliau Cynhwysol Cymru yn ddiweddar.

Cymerodd pedwar dysgwr o gwrs Samplu Galwedigaethol y Drenewydd ran. Dangosodd Conor Lewis a Victoria Hester eu sgiliau yn y gystadleuaeth paratoi bwyd ac fe gymerodd Megan Earys ran yn y gystadleuaeth gosod byrddau. Yn y cyfamser rhoddwyd Emma Louise Jones ar waith yn yr her TGCh. Gwnaed ymdrech fawr gan yr holl gystadleuwyr a chawsant oll eu gwobrwyo â thystysgrifau.

Ynghyd â chyfranogiad ein myfyrwyr, cafodd y darlithwyr Cyfryngau Steve Bellis a David May y dasg o feirniadu yn y gystadleuaeth sgiliau cyfryngau cynhwysol. Dywedodd Steve fod yr holl fyfyrwyr wedi perfformio’n dda.

Yn dilyn y gystadleuaeth yn y Drenewydd cafodd Megan Earys wahoddiad i gasglu medal. Dywedodd y darlithydd Samplu Galwedigaethol Amanda Cruse, ‘ Roeddem wrth ein bodd i glywed bod Megan wedi’i dewis i fynychu digwyddiad Dathlu Enillwyr Medalau yng Nghaerdydd.  Rydym i gyd mor falch drosti ac yn falch o’n holl fyfyrwyr a gymerodd ran’.

Llongyfarchiadau Megan a phawb a gymerodd ran.