Adeiladu Sylfeini Cadarn

Croesawodd Coleg Bannau Brycheiniog fyfyrwyr o Ysgol Calon Cymru ar gyfer eu  diwrnod rhagflas cyntaf ar gyfer adeiladwaith.

Drwy gydol y dydd, cymerodd myfyrwyr blwyddyn 10 ran mewn gweithgareddau gwaith brics a gwaith saer gan gynnwys dysgu hanfodion sut i osod briciau a gwneud stondinau te. Gwnaethpwyd hyn oll o dan arweiniad agos y darlithydd gwaith brics Richard Jones sydd â blynyddoedd o brofiad fel briciwr blaenorol a chyn-fyfyriwr y coleg, yn ogystal â Paul Davies, darlithydd gwaith saer.

Trefnwyd y diwrnod gan Julie Sayce o Grŵp Hyfforddiant Adeiladwaith Powys sydd â’r nod o ddarparu hyfforddiant iechyd a diogelwch i gwmnïau ym Mhowys. Syniad Julie oedd cynnal diwrnodau rhagflas i gyflwyno disgyblion lleol i’r diwydiant.

Meddai Julie: “Pan sylweddolodd y Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladwaith (CITB) sy’n ein hariannu fod bwlch sgiliau a diffyg diddordeb ymhlith y genhedlaeth iau, roeddem yn gwybod bod angen i ni wneud rhywbeth am y broblem hon.”

Gyda chymorth Jacky Jones o Gyrfa Cymru roedd modd iddynt gysylltu â’r ysgol a’r Coleg i drefnu’r diwrnod.

Roedd y myfyrwyr hefyd wedi gallu cymryd rhan mewn sesiynau rhithwir dan arweiniad Construction Wales Innovation (CWIC).

Roedd Jennifer Sparrow, Cynghorydd Ymgysylltu a Busnesau yn yr Datblygu Busnes yn y Coleg yno ar y diwrnod i siarad â myfyrwyr am gyfleoedd gyrfa a’r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

Dywedodd Ian Lumsdaine, Cyfarwyddwr Astudiaethau ar gyfer Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig yng Ngrŵp Colegau NPTC: “Mae’n hanfodol bwysig bod y diwydiant adeiladwaith yn gallu recriwtio, datblygu a chadw staff talentog os yw am fynd i’r afael â’r prinder sgiliau y mae cyflogwyr yn ei adrodd ac i gystadlu’n effeithiol â sectorau eraill. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Hyfforddiant Adeiladwaith Powys a Gyrfa Cymru gyda’r nod o roi cyfle uniongyrchol i ddarpar fyfyrwyr brofi crefftau gosod brics, gwaith saer a gwaith asiedydd, a dysgu am y nifer fawr o lwybrau gyrfaol sydd ar gael o fewn y diwydiant.

“Rydym yn gobeithio y bydd heddiw yn sbardun i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl ifanc dalentog i ymuno â diwydiant deinamig a chyffrous.”