Cafodd ymdrechion ei fyfyrwyr newydd sbon eu cydnabod gan Grŵp Colegau NPTC wrth iddo gyflwyno nifer o fwrsariaethau hael mewn seremoni a gynhaliwyd yng Ngholeg Castell-nedd.
Am y 14 blynedd ddiwethaf, mae’r Coleg wedi dyfarnu bwrsariaethau o £1,500 i’r myfyrwyr newydd a dderbynnir o ysgolion cyfun partner ac a gyflawnodd y canlyniadau gorau yn eu harholiadau TGAU.
Cyflwynwyd tystysgrif a bwrsari i’r myfyrwyr a berfformiodd i’r eithaf ar draws Grŵp Colegau NPTC i’w hannog i ddatblygu eu sgiliau, a dilyn, gobeithio, cyn-fyfyrwyr gan gynnwys un myfyriwr blaenorol, o Ysgol Bae Baglan, Si Wai Hui, a dderbyniodd y fwrsariaeth academaidd ac aeth ymlaen i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Rhydychen. Astudiodd Si Wai gymwysterau Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg yn y Coleg, gan gyflawni A* ym mhob un o’r tri phwnc yn ogystal ag Aur yn yr Olympiad Bioleg yn 2019.
Dyfernir ysgoloriaethau hefyd i helpu myfyrwyr sydd â gallu chwaraeon neu allu creadigol eithriadol i ddatblygu eu talentau i’w potensial mwyaf, ar yr un pryd â llwyddo yn eu hastudiaethau academaidd. Cafodd y derbynwyr eleni eu hymuno gan Lysgenhadon newydd y coleg, mathemategwyr ifanc a’r rhai sy’n egin beirianwyr a oedd hefyd yn derbyn bwrsariaeth yn y seremoni.
Ymunodd rhieni, staff y coleg, a nifer o benaethiaid o ysgolion bwydo lleol â’r myfyrwyr ac roeddent yn awyddus i weld gwaith caled eu cyn disgyblion yn cael eu gwobrwyo. Roedd hyn yn cynnwys Pennaeth Blwyddyn 11 Ysgol Gyfun Dŵr-y-felin, Keith Williams a dywedodd:
‘Rwy’n hynod o falch bod ein cyn disgyblion i gyd yn cael eu cydnabod yma heddiw. Roeddent yn grŵp blwyddyn eithriadol ac roeddent yn gweithio’n aruthrol o galed i gyflawni eu canlyniadau TGAU rhagorol. ‘
‘Mae’n wych bod y Coleg yn gallu rhoi’r bwrsariaethau hyn, ac mae’n gymhelliant mor fawr i fyfyrwyr i weithio’n galed a chael y canlyniadau gorau hynny yn eu cymwysterau TGAU. ‘
Roedd is-bennaeth Gwasanaethau Academaidd Grŵp Colegau NPTC, Judith Williams, wrth law i roi’r bwrsariaethau i’r myfyrwyr a dywedodd fod yr arian wedi helpu myfyrwyr blaenorol a oedd wedi camu ymlaen i lefel gradd a thu hwnt.
Dywedodd Judith: “Y myfyrwyr sy’n cael bwrsariaethau heddiw yw’r gorau o’r goreuon. Rydym yn falch iawn o’u gwobrwyo am eu llwyddiannau eithriadol. Mae rhai o’n henillwyr blaenorol wedi mynd ymlaen i astudio yn rhai o’r prifysgolion gorau yn y wlad.’
Eleni, derbyniodd tua 70 o bobl ifanc o Grŵp Colegau NPTC wobrau a dymunwn longyfarchiadau i’r canlynol:
(Cliciwch yma i weld ein horiel luniau lawn)
BURSARIES – ACADEMIC | ||
Chloe | Evans | Birchgrove |
Emily | Darney | Cefn Hengoed |
Jodie | Langdon | Cefn Saeson |
Hannah | Parel | Cefn Saeson |
Alfie | Richards | Cefn Saeson |
Ffion | Titcombe | Cwmtawe |
Elli | Jones | Cymer Afan |
Nzringha | Jarvis | Dwr-y-Felin |
Luke | Powell | Dwr-y-Felin |
Rhys | James | Dwr-y-Felin |
Benjamin | Jeffs | Dwr-y-Felin |
Sofia | Lambert-Jones | Dwr-y-Felin |
Lewis | Thorne | Dwr-y-Felin |
Jamie | Melin | Dwr-y-Felin |
Hannah | Griffiths | Llangatwg |
Jay | Haley | Ysgol Bae Baglan |
Lois | Boziliovic | Ysgol Bae Baglan |
Jacob | Bailey | Ysgol Cwm Brombil |
Angharad | John | Ysgol Bryn Tawe |
Carissa | Choi | Ysgol Gyfun Ystalyfera |
Jane | Donovan | Ysgol Gyfun Ystalyfera |
BURSARIES – ELITE SPORT | ||
Ciaran | Comerford | Cefn Saeson Comprehensive School |
Daniel | Edwards | Ysgol Gyfun Ystalyfera |
Chloe | Evans | Ysgol Bae Baglan |
Hannah | Garnett | Pen-Y-Dre High School |
Ffion | Maddock | Cefn Saeson Comprehensive School |
Victoria | Powney | Ysgol Bae Baglan |
SPORT AND CULTURAL | SPORT | |
Harvey | Donovan | St Joseph’s RC |
Demi Carlyle | Edwards | Ysgol Cwm Brombil |
Georgia | Howells | Cefn Saeson Comprehensive School |
Katelyn | Kneath | Cwmtawe Comprehensive School |
Niamh | Thomas | St Joseph’s RC |
Sophie | Topper | Dwr-Y-Felin Comprehensive School |
Lowri | Wareham | St Joseph’s RC |
SPORT AND CULTURAL | CULTURAL | |
Jordan | Cranny | Dwr Yr Felin Comprehensive School |
Evan | Elias | Dwr-Y-Felin Comprehensive School |
Casey-Jane | Lewis | Ysgol Bae Baglan |
Cellan Thomas | Morgan | Llangatwg Comprehensive School |
Issabelle Emily Alaina | Purser | Ysgol Bae Baglan |
Lucy Jayne | Thomas | Dwr-Y-Felin Comprehensive School |
Alicia Catherine | Williams | Ysgol Bae Baglan |
Sophie Alexandra | Williams | Dwr-Y-Felin Comprehensive School |
VOCATIONAL EXCELLENCE | ||
Bragg | Rachel | Dwr-Y-Felin Comprehensive School |
Isabelle Lilly | Coombs | Ysgol Gyfun Ystalyfera |
Conor | Drain | Brecon High School |
Elin Wyn | Orrells | Ysgol Uwchradd Caereinion |
Elis | Tudor | Newtown High School |
AMBASSADORS | ||
Jacob | Bailey | Ysgol Cwm Brombil |
Aiden | Daniel | |
Amy Catrin | Davies | Newtown High School |
Chloe | Davies | |
Prys | Eckley | Builth Wells High School |
Ana | Godsell | |
Kelsey Mai | Hughes | Dwr-Y-Felin Comprehensive School |
Seren Mia Haf | Hughes | Dwr-Y-Felin Comprehensive School |
Shannon | Jarrett | Ysgol Bae Baglan |
Emily | Jerman | Ysgol Uwchradd Caereinion |
Cerys | Jones | Cwrt Sart Comprehensive School |
Cerys Ella | Jones | Ysgol Uwchradd Caereinion |
Maia | Jutsum | Dwr-Y-Felin Comprehensive School |
Con | McCafferty | Cwmtawe Comprehensive School |
Chloe | Owen | Newtown High School |
Ellie | Phillips | Ysgol Gyfun Ystalyfera |
Leah-Mai | Richards | Ysgol Uwchradd Caereinion |
Sophie | Shaw | Builth Wells High School |
Emily | Smith | Cwmtawe Comprehensive School |
Rebecca | Walsh | Cwrt Sart Comprehensive School |
Seren | Webber | Ysgol Gyfun Ystalyfera |
SWIEET ENGINEERING | ||
Spencer | Peters | Cefn Saeson |
Charlie | Davies | Cefn Saeson |