S’dim Mynydd Digon Uchel

Wynebodd tri aelod o staff o Goleg Bannau Brycheiniog yr her o gerdded i fyny copaon uchaf Cymru. Gwisgodd Tina Davies a Jenny Morgan sef staff y ffreutur ynghyd â Clare Cluer, Swyddog Datblygu TGD eu hesgidiau cerdded gorau i fynd i’r afael â’r copaon rhwng 6 a 8 Medi. Esgynnodd Tina a Jenny Pen Y Fan ar y dydd Iau ond methodd Clare â chwblhau’r cam hwn oherwydd y tywydd.

Aeth y tri wedyn i wersylla Llywn Y Helm yng Ngogledd Cymru yn barod ar gyfer eu her dros ddeuddydd, a’r Wyddfa oedd yr un cyntaf. Dywedodd Tina: “Dydyn ni ddim yn cael llawer o ddyddiau braf, felly ni allem fod wedi dymuno cael diwrnod gwell i neud y peth, ac roeddwn i wrth fy modd.” Y diwrnod wedyn, bu’r daith gerdded hir i fyny Cader Idris a syrthiodd Tina ar y ffordd i lawr ac ychwanegodd Clare: “Dyma un o’r rhai mwyaf anodd ac roeddwn i’n llefain ar y brig ar ôl i ni gyrraedd yno.”

Dywedodd Jenny: “Roedd yn wych, roeddwn i wedi mwynhau fy hun yng nghwmni ffrindiau a llawer o chwerthin.”

Cafodd y triawd hwrê fawr gan eu cyd-weithwyr o Goleg Bannau Brycheiniog a oedd yn eu hannog i gyflawni’r her hon.

Ychwanegodd Clare: “Ar ôl mynd i sesiynau ‘Boot camp’ bob wythnos gyda’r darlithydd Gwyddor Chwaraeon Rhian Davies, dwi’n meddwl fy mod i wedi ymbaratoi’n fwy wrth ddechrau teimlo’n ddigon ffit i’w wneud.”