Help llaw i Ceri

Nid oedd dechrau yn y coleg yn daith hawdd ar gyfer Ceri Evans, myfyriwr Gofal Plant yng Ngholeg Bannau Brycheiniog. Mae Ceri yn cyfaddef ei bod wedi cael trafferth gydag aseiniadau ac wrth gwblhau rhai o’r gwaith. O dipyn i beth, sylweddolodd y darlithydd Rachel Halsey nad oedd popeth yn iawn ac o ganlyniad i hyn cafodd Ceri ei phrofi am ddyslecsia a chanfuwyd wedyn fod dyslecsia arni.

Rhoddwyd cymorth i Ceri gan ddarlithwyr yn ogystal â chymorth un i un a rhoddwyd gwahanol ddeunyddiau darllen iddi. Roedd modd wedyn  i Ceri gwblhau ei chymhwyster Lefel 3 yn ogystal â dewis cwblhau aseiniadau estynedig ar ben hynny sy’n gyfwerth â thri aseiniad Prifysgol. Mae Ceri bellach wedi dychwelyd i’r Coleg i gwblhau ei Gradd Sylfaen Lefel 5 mewn Astudiaethau Plentyndod, sy’n gwrs dwy flynedd. Ar ôl ei gwblhau bydd Ceri yn gallu ymuno â’r brifysgol am flwyddyn fel rhan o gwrs atodol ar gyfer y radd lawn.

Mae Ceri yn gobeithio gorffen y cwrs gradd a dilyn ei breuddwydion o ddod yn athrawes ysgol gynradd ac ychwanegodd: “Roedd yr amser a’r gefnogaeth a gefais gan fy narlithwyr yn fy ngalluogi i fagu’r hyder i gyflawni canlyniadau da.  Heb gefnogaeth y Coleg fyddwn i ddim wedi gallu cael mynediad i’r cwrs Lefel 5.  Mae hwn yn gwrs gwych gan fy mod i’n gallu gweithio ar yr un pryd â chyflawni fy ngradd. ”