Llwyddiant ysgubol

Roedd y sioe ‘This is Us’ yn Theatr Brycheiniog ar 21 Mehefin gan fyfyrwyr Astudiaethau Sylfaen y coleg, Seren Stars a myfyrwyr Ysgol Penmaes yn boblogaidd tu hwnt gyda’r gynulleidfa. Gadawodd nifer o bobl y theatr yn teimlo wrth eu bodd ac yn emosiynol iawn ar ôl i’r myfyrwyr roi perfformiad gwych o’r sioe sy’n dathlu unigoliaeth a gwireddu breuddwydion.

Roedd y myfyrwyr eu hunain wrth eu boddau bod eu holl waith caled yn ymarfer wedi talu ar ei ganfed. Dywedodd y darlithydd Sara Powell na allai fod wedi bod yn fwy balch o bob un ohonynt yn y cynhyrchiad hwn, sef wythfed flwyddyn Seren yn cyflwyno perfformiad.

Dewiswyd ‘Dyma ni’ gan y myfyrwyr gan ei fod yn cynnwys eu hoff gerddoriaeth, caneuon a dawnsfeydd! Da iawn!