Libby Cawley yn Mwynhau Llwyddiant Norland Nannies

Mae myfyriwr Gofal Plant Coleg y Drenewydd, Libby Cawley, wedi cael ei gwobrwyo am ei gwaith caled a’i hymroddiad drwy ennill rôl fel Norland Nanny.

Norland Nannies fu dewis gofal plant y cyfoethog a’r enwog, gan gynnwys aelodau’r teulu brenhinol fel y Tywysog George a’r Dywysoges Charlotte. Mary Poppins ein cyfnod!

Gwnaeth Libby gais drwy UCAS ac mae wedi llwyddo i gael lle fel un o 100 yn unig o fyfyrwyr sy’n cael eu derbyn bob blwyddyn.

Mae Libby yn teimlo mai rhan o’r rheswm dros ei llwyddiant yn ei chyfweliad oedd y brwdfrydedd a ddangosodd yn ystod y broses.

Roedd darlith Libby, Clare Bumford, wrth ei bodd dros Libby, a dywedodd: “Mae Libby yn fyfyriwr sy’n gweithio’n galed, nid yn unig yn ymgymryd â chwrs Gofal Plant amser llawn ond hefyd yn gweithio mewn meithrinfa ac yn ystod ei nosweithiau a phenwythnosau yn gweithio fel nani gyda theulu â thri o blant bach.

“Mae hi wedi bod yn fyfyrwraig wych ac rydw i wrth fy modd drosti ac yn dymuno pob lwc iddi ar gyfer y dyfodol.”