Hawl i Holi yng Ngrŵp Colegau NPTC

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Canolfan Celfyddydau Nidum yng Ngholeg Castell-nedd, rhan o Grŵp Colegau NPTC, fersiwn Castell-nedd Port Talbot o’r sioe banel wleidyddol boblogaidd, Hawl i Holi. Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i annog pobl ifanc i ymuno yn y sgwrs a rhoi llwyfan i fynegi eu barn ar faterion gwleidyddol sy’n effeithio arnynt.

Daeth myfyrwyr o ar draws y Coleg, gan gynnwys myfyrwyr addysg uwch a myfyrwyr safon Uwch, i ofyn cwestiynau i banel o wleidyddion lleol amlwg. Yn cadeirio’r digwyddiad oedd Maer Castell-nedd Port Talbot, Dennis Keogh. Yn bresennol oedd Stephen Kinnock, AS Llafur dros Aberafan, David Rees, AC Llafur dros Aberafan, Jeremy Miles AM Llafur dros Gastell-nedd, Bethan Sayed, AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Suzy Davies, AC Ceidwadol dros Orllewin De Cymru, Anthony Taylor, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chynghorydd Llafur Taibach, Alun Llewellyn, cynghorydd Plaid Cymru dros Ystalyfera ac Arweinydd Plaid yng Nghastell-nedd Port Talbot, Steve Hunt, Cynghorydd Annibynnol dros Flaendulais ac Arweinydd y Democratiaid Annibynnol yng Nghastell-nedd Port Talbot a Sheila Kingston-Jones, Prif Ymgeisydd Rhestr Rhanbarthol De Orllewin Cymru ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau nesaf y Cynulliad.

Dechreuodd Maer Keogh drwy gyflwyno’r panel a thynnu sylw at bwysigrwydd clywed barn a safbwyntiau pobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot. Arweiniodd hyn at gwestiwn cyntaf y dydd sef; “A ddylid gostwng yr oedran pleidleisio i 16?” Dilynodd trafodaeth fywiog yn cynnwys aelodau’r panel a’r gynulleidfa a’r casgliad unfrydol oedd y dylid rhoi’r bleidlais i bobl 16 ac 17 oed; yn wir mae hyn yn rhan o lawer o faniffestos y pleidiau a gynrychiolwyd. Aeth y myfyrwyr ymlaen i ofyn cwestiynau heriol ynghylch gwrth-Semitiaeth, Shamima Begum, benthyciadau i fyfyrwyr a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Roedd y drafodaeth a ddilynodd yn canolbwyntio nid yn unig ar y tirlun gwleidyddol cyffredinol ond hefyd ar yr effaith uniongyrchol y mae’r materion hyn yn ei chael ar bobl ifanc, yn lleol ac yn genedlaethol. Roedd yn gyfle i’r panel glywed yn uniongyrchol gan y bobl ifanc ac i gydnabod y gwahanol safbwyntiau a gyflwynwyd iddynt, gyda phawb yn cytuno ar bwysigrwydd rhoi llais i bobl ifanc.

Wrth i’r ddadl ddirwyn i ben, ail-gadarnhaodd Maer Keogh bwysigrwydd cofrestru ac arfer yr hawl sylfaenol i bleidleisio ac ategwyd hyn gan y panel. Anogodd myfyrwyr i gofrestru yn www.gov.uk/register-to-vote, os nad oeddent wedi gwneud hynny eisoes.

Dywedodd Mark Dacey, Pennaeth/Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Mae’n wych i roi’r cyfle unigryw hwn i’n myfyrwyr a phobl ifanc yn gyffredinol. Yn aml, bernir eu bod yn ddifater tuag at wleidyddiaeth ac mae  digwyddiadau fel y rhain yn tynnu sylw at y ffaith bod gan bobl ifanc Castell-nedd/Port Talbot ddiddordeb mawr yn yr hyn sydd gan wleidyddion i ddweud, ac awydd mawr hefyd i ymuno yn y sgwrs. Roedd yn ysbrydoledig gweld cynifer o’n myfyrwyr yn trafod yn uniongyrchol gyda’r panel. Hoffem ddiolch i’r gwleidyddion am roi eu amser i fod gyda ni heddiw. Diolch hefyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot am drefnu’r digwyddiad; gobeithiaf mai dyma yw’r cyntaf o lawer ohonynt”.

Dywedodd Maer Castell-nedd Port Talbot y Cyng. Dennis Keogh: “Roeddwn wrth fy modd, yn fy rôl fel prif ddinesydd, i allu cynnig y digwyddiad hwn a gynlluniwyd i ymgysylltu pobl ifanc lleol yn y broses ddemocrataidd. Mae’n hanfodol bod y bobl ifanc hyn yn teimlo eu bod wedi’u grymuso a bod llais ganddynt yn y materion sy’n bwysig iddynt, a hoffwn ddiolch i’n cynulleidfa ac aelodau’r panel am eu cyfraniadau. Hwn gobeithio fydd y cyntaf o sawl digwyddiad o’r fath. Hoffwn ddiolch hefyd i staff a myfyrwyr Grŵp NPTC fu’n brysur y tu ôl i’r llenni am eu cymorth wrth hwyluso a chynnal y digwyddiad hwn a sicrhau ei lwyddiant”.

Capsiwn Llun: Y panel yn Hawl i Holi CNPT