Prentisiaethau – Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2019

CYMHWYSO | CAEL EICH TALU | CAEL GYRFA

Os nad yw astudio’n llawn amser yn mynd â’ch bryd, yna gallai prentisiaeth gyda Grŵp Colegau NPTC fod yr union beth yr ydych yn chwilio amdano.

Mae gan Grŵp Colegau NPTC raglen brentisiaeth lwyddiannus iawn gyda rhai cwmnïau eithriadol, fel: DVLA; Undeb Rygbi Cymru (URC); Clwb pêl-droed Dinas Abertawe a Phrifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mae prentisiaeth neu ddysgu seiliedig ar waith yn rhoi cyfle ichi ennill profiad gwerthfawr mewn swydd go iawn ac ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol ar yr un pryd ag ennill cyflog!

Gallwch ddod o hyd i yrfaoedd mewn llawer o feysydd yn cynnwys:

Cyfrifeg, Amaethyddiaeth, Mecaneg Amaethyddol, Gweinyddu Busnes, Gofal/Gofal Iechyd Clinigol, Adeiladwaith, Gofal Plant, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Lletygarwch Peirianneg, Cerbydau Modur, Atgyweirio Cyrff Cerbydau, Rheolaeth Manwerthu a Chwaraeon.

ATGYWEIRIO A PHEINTIO CYRFF CERBYDAU

Oes gennych ddiddordeb mewn atgyweirio cyrff cerbydau, chwistrellu ceir gyda’r dyluniadau diweddaraf neu adfer moduron clasurol i’w harddwch gynt?

Gallai prentisiaeth mewn atgyweirio a pheintio cyrff cerbydau fod yr ateb! Cael cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ar yr un pryd â datblygu eich sgiliau yn y gweithle a mynychu’r coleg am un diwrnod yr wythnos yn unig.

Ymunwch â ni yn ein cyfleuster cerbydau modur newydd sbon, ar flaen y gad, a datblygwyd gyda Snap-on Tools, a byddwch yn cwmpasu meysydd sy’n cynnwys:

  • Cael gwared â/gosod paneli cyrff heb eu weldio, nad ydynt yn strwythurol
  • Cael gwared â, adnewyddu ac atgyweirio paneli cyrff strwythurol
  • Weldio sbot/MIG
  • Paratoi arwynebau metel a’r rhai sydd wedi’u peintio’n barod
  • Paratoi a chymhwyso llanwadau a deunyddiau sylfaen
  • at gerbydau gan nodi ac unioni diffyg cysondeb corff (Gwaith JIG)
  • Paratoi arwynebau metel a’r rhai sydd wedi’u peintio’n barod
  • Paru lliwiau – metelaidd a pherlaidd
  • Gwaith atgyweirio lleol/blendio.

Amber Rogers | Prentis Patholeg | Ysbyty Singleton – Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU)

Dechreuodd Amber, 22 oed o Lanelli ar ei gyrfa yn y sector gofal iechyd gyda phrentisiaeth lefel 3 mewn Cymorth Patholeg gyda Phrifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Ysbyty Singleton, Abertawe a Hyfforddiant Pathways ar ôl penderfynu bod mwy i fywyd na gweithio mewn siop DIY leol.

Gall diwrnod nodweddiadol i Amber gynnwys paratoi samplau a gweithio ochr yn ochr â gwyddonwyr biofeddygol i labelu samplau ar y fainc ddyrannu. Roedd yr agwedd ymarferol hon gyda brwdfrydedd newydd ar gyfer y sector yn ei hybu i fynd ati i gydbwyso ymrwymiadau heriol eraill y tu allan i’r gwaith a sicrhau bod modd iddi barhau i wneud yr hyn yr oedd hi’n ei fwynhau sut cymaint, rhywbeth a oedd yn gofyn llawer ar adegau.

Roedd Amber yn un o’r dysgwyr cyntaf yng Nghymru i gwblhau’r cymhwyster Cymorth Patholeg ac fe’i dosbarthir yn wyddonydd gofal iechyd ei hunan erbyn hyn, gan gael swydd barhaol gyda Phrifysgol Abertawe Bro Morgannwg a chafodd ddyrchafiad yn ddiweddar ar ben hynny.  Mae’n hyrwyddo cynnig prentisiaethau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac mae hefyd yn fentor i brentisiaid newydd o fewn yr adran patholeg.

” Mae prentisiaethau yn wych ar gyfer y bobl hynny sy’n gadael yr ysgol yn dymuno gweithio.  Cewch gyfle i hyfforddi ar y safle, adeiladu eich sgiliau yn ogystal â chael cymhwyster.  Mae fy mhrentisiaeth gyda Hyfforddiant Pathways a Phrifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi rhoi gyrfa i mi fy mod i’n ei garu ac wedi agor byd o gyfleoedd newydd.  Rwy’n wyddonydd gofal iechyd ar hyn o bryd a byddaf yn mynd ymlaen i lefel 4 gyda’r posibilrwydd o fod yn Wyddonydd Biofeddygol.”

“Mae Grŵp Colegau NPTC wedi gweithio gydag Academi Prentisiaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg am dros 2 flynedd a hanner ac rydym yn falch iawn o’n holl brentisiaid sydd wedi ennill eu cymwysterau ac wedi symud ymlaen i swyddi parhaol.  Ar gyfer ein sefydliad, mae cyflogi prentisiaid i’w hyfforddi ar gyfer rolau penodol yn ffordd wych i ‘dyfu ein staff ein hunain’ gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a’r gallu i ddatblygu eu gyrfa gyda ni”(Ruth Gates, Rheolwr Academi Prentisiaid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg).