Mae’r triniwr gwallt enwog arobryn Lee Stafford yn agor ei Academi gyntaf yng Nghymru yng Ngrŵp Colegau NPTC.
Bydd yn gweithio gyda’r Tîm Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol yn y Coleg ac yn helpu i ddarparu hyfforddiant o’r radd flaenaf o safon seren Michelin. Bydd y staff addysgu profiadol yn ymgymryd â hyfforddiant dwys yn arddull ‘rysáit’ Lee Stafford fel y gallant drosglwyddo’r wybodaeth i’r myfyrwyr ar eu cyrsiau.
Mae myfyrwyr yng Ngholeg Afan eisoes wedi cael dosbarth meistr gan y triniwr gwallt enwog, a gymerodd amser allan o’i amserlen brysur i ddangos ei rysáit ar gyfer ‘Twisted Tong’. Wrth drafod ei dechneg cyrlio, soniodd Lee wrth y myfyrwyr Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol am ei lwybr at enwogrwydd. O gefndir di-nod fel amatur brwd yn torri gwallt yn ystafell fwyta ei rieni, mae Lee wedi dod yn un o enwau mwyaf adnabyddus y diwydiant.
Dywedodd fod y llwyddiant hwn yn ganlyniad agwedd bositif a hunan-gred, ynghyd â dogn iach o lwc. Yn ystod y sesiwn awr o hyd, esboniodd Lee sut oedd yr ewyllys i lwyddo wedi’i wthio i ymgeisio – ac ennill – gwobr Triniwr Gwallt Dynion Prydeinig y Flwyddyn yn 2001. Arweiniodd araith fuddugol gofiadwy ato yn dod, ar hap, yn driniwr gwallt preswyl enwog ar This Morning, prif raglen deledu ddyddiol ITV. Roedd lansio ei ystod o nwyddau ei hun wedi sicrhau ei le fel un o drinwyr gwallt uchaf ei barch yn y DU.
Ond, er gwaethaf ei lwyddiant, nid yw Lee erioed wedi anghofio ei wreiddiau, ac mae’n dal i fod yn ddiolchgar iawn am y blynyddoedd ffurfiannol hynny yn yr ystafell fwyta. “Mae’n wych gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r myfyrwyr,” meddai. “Rwy’n frwd iawn ynghylch rhoi i weithwyr proffesiynol ifanc y cyfle gorau i gael addysg dda o fewn trin gwallt. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Grŵp Colegau NPTC lle byddwn yn gweithio gyda myfyrwyr i ddatblygu technegau cryf iawn ac agweddau gwych wrth baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y diwydiant trin gwallt.”
Dywedodd Juliana Thomas, Pennaeth yr Ysgol Trin Gwallt a Therapïau Cymhwysol, fod yr enw Lee Stafford yn galluogi Grŵp Colegau NPTC i gynyddu ei broffil a rhoi profiad gwych i’r myfyrwyr.
“Fel rhan o Academi Addysg Lee Stafford, gallwn gynnig y cyfleoedd addysgol gorau i’r myfyrwyr trin gwallt disgleiriaf a’r gorau yng Nghymru. Rydym bob amser yn darparu addysg a hyfforddiant o’r ansawdd uchaf, ond mae hyn yn caniatáu inni roi i’n myfyrwyr fwy nag addysg yn unig yn sicr,” ychwanegodd.
Capsiwn Llun: Dosbarth meistr gan Lee Stafford fu’n ymweld â Choleg Afan, rhan o Grŵp Colegau NPTC.