Howzat: Antur Garibïaidd i driawd o chwaraewyr criced

Bydd tair sbortswraig ddawnus o Academi Chwaraeon Llandarcy – rhan o Grŵp Colegau NPTC yn hedfan i Ynysoedd y Caribî’r gwanwyn hwn i chwarae mewn twrnamaint Criced Cymru yn Barbados, ac mae angen eich help chi arnynt!

Mae gefeilliaid Kelsey a Seren Hughes ac Alex Griffiths yn cynrychioli Menywod Cymru mewn cystadleuaeth lle y byddant yn chwarae naw gêm mewn deuddeg diwrnod yn erbyn tîm Academi Barbados, a nifer o dimau yn yr ardal leol. Bydd y twrnamaint yn chwarae rôl allweddol yn y rhaglen cyn dechrau’r tymor Menywod Cymru, cyn tymor cyffrous sydd yn eu gweld yn cystadlu yn Adran Un y Gynghrair T20.

Mae’r merched eisoes wedi cael profiad helaeth o deithiau tramor, ar ôl cwblhau saith rhyngddynt, ac yn edrych ymlaen at yr her ddiweddaraf hon. Dywedodd:

“Mae’n mynd i fod yn gyfle gwych ar gyfer y tîm, fel taith cyn y tymor i baratoi ar gyfer y tymor sydd ar ddod, yn enwedig gan ein bod bellach yn Adran Un o’r Gynghrair T20”.

Mae pob un o’r tri chricedwr ifanc ar hyn o bryd wrthi’n astudio BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon (Datblygiad, Hyfforddiant a Ffitrwydd) yn Academi Chwaraeon Llandarcy sy’n eu galluogi i ymgorffori eu rhaglen hyfforddiant criced brysur yn eu rhaglen astudio bob dydd. Eglurodd Seren:

“Rydyn ni’n cael llawer o gymorth gan y darlithwyr. Maen nhw’n rhoi cyfleoedd hyfforddi i ni, sy’n ein helpu i ddatblygu ein criced, ac rydyn ni’n elwa bob dydd ar y cyfleusterau gwych yma yn Academi Chwaraeon Llandarcy.

Mae gan y tair pobl ifanc dawnus ddyheadau uchel ar gyfer eu dyfodol ym maes chwaraeon. Maent yn anelu at symud ymlaen i gynrychioli Western Storm (tîm criced Twenty20 i fenywod o Dde orllewin Lloegr) ac yna yn y pen draw i gynrychioli Hyrwyddwyr y Byd 2017 sef tîm Menywod Lloegr.

Dywedodd Sali Ann Millward (Dirprwy Bennaeth Ysgol – Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus):

“Mae’n wych gweld tri o’n myfyrwyr benywaidd yn cynrychioli eu gwlad ar lefel uwch; mae pob un o’r 3 myfyriwr wedi bod yn gweithio’n galed yn eu rhaglenni BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon. Rydyn ni’n eu cefnogi wrth godi proffil criced menywod yng Nghymru a’u helpu i godi arian i deithio i Barbados. Roedd Seren a Kelsey yn arfer mynd i’r sesiynau hyfforddi gydag Ysgol Gynradd Crymlyn ac mae Sean sef brawd Alex yn un o Alumni Academi Chwaraeon Llandarcy. Yn y Coleg, rydyn ni’n awyddus i godi proffil pob math o chwaraeon ac mae’n bwysig ein bod ni’n cefnogi’r myfyrwyr dawnus hyn i’r eithaf i fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu a meithrin eu sgiliau.”

Mae’r tîm yn chwilio am nawdd ar gyfer y daith ac maent wrthi’n creu taflen a fydd yn cynnwys llefydd gwag i’w prynu i hysbysebu. Bydd y llyfryn hwn yn cael ei ddosbarthu i boblogaeth criced Cymru felly mae’n ffordd wych i dynnu sylw at eich busnes a chefnogi dyfodol criced menywod yng Nghymru ar yr un pryd!

Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi Kelsey, Seren, Alex ac aelodau eu tîm, mae amrywiaeth o becynnau ar gael. Cysylltwch â sali-ann.millward@nptcgroup.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws Grŵp Colegau NPTC.

Cliciwch yma i fwrw golwg ar ein cyrsiau