Myfyrwyr yn rhoi cychwyn ar Gynghrair Dewiniaid newydd Tata Steel

Mae myfyrwyr chwaraeon o Grŵp Colegau NPTC wedi codi eu chwibanau i helpu plant ysgol gynradd i ddangos eu talent chwaraeon.

Mae Academi Chwaraeon Llandarcy, rhan o Grŵp Colegau NPTC, unwaith eto wedi bod yn gartref i ysgolion lleol wrth iddynt frwydro i ddod yn bencampwyr rygbi a phêl-rwyd yng Nghynghrair Dewiniaid Tata Steel 2018/2019.

Yn y rownd ddiweddaraf o gemau, cystadlodd fyfyrwyr o ysgolion cynradd Port Talbot sef Cwmafan, Eastern, Sant Joseff a Chwm Brombil mewn gornest gron mewn pêl-rwyd a hoci gyda myfyrwyr chwaraeon Grŵp Colegau NPTC yn dyfarnu.

Gweithiodd y myfyrwyr gyda’i gilydd i gynllunio a threfnu’r gemau ac roeddent yn gyfrifol am ddyfarnu a sgorio pob gêm. Roedd hefyd yn gyfle iddynt ymarfer eu sgiliau cyfryngau gan iddynt gael eu cyfweld ar gyfer ffilm fer sy’n anelu at hyrwyddo manteision y gynghrair i ddisgyblion ysgol gynradd.

Dywedodd Chris Davies, Rheolwr Masnachol a Marchnata Clwb Rygbi Aberafan:

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i staff a myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC am drefnu a dyfarnu’r gemau hyn. Mae’r myfyrwyr wedi bod yn arbennig unwaith eto ac mae’n wych gallu cynnig profiad gwerthfawr iddynt drwy’r bartneriaeth barhaus hon.”

Ychwanegodd Helen Jones, Darlithydd Chwaraeon gyda Grŵp Colegau NPTC a Hyfforddwr yr Academi Pêl-rwyd:

“Mae’r Coleg wrth ei fodd i fod yn rhan o’r bartneriaeth wych hon gyda Chymuned Aberafan a TATA Steel am dymor arall.

“Mae mwy nag 20 o fyfyrwyr chwaraeon y Coleg o’r Academïau Rygbi a Phêl-rwyd yn cymryd rhan yn y fenter hon fel dyfarnwyr. Mae’r myfyrwyr hyn yn ymroi i ennill cymwysterau Dyfarniad Hyfforddwr a gydnabyddir gan y diwydiant – yn ychwanegol at eu hastudiaethau llawn amser – er mwyn eu galluogi i oruchwylio’r gemau hyn.

“Rydym yn llawn cyffro i gymryd rhan gyda Chlwb Rygbi Aberafan a Tata Steel unwaith eto, ac yn falch i allu cynnig y cyfleusterau yn Academi Chwaraeon Llandarcy. Yr ydym yn siŵr bydd y berthynas hon yn parhau ymhell i’r dyfodol, ac mae hyn yn rhywbeth rydym yn gwbl ymroddedig i’w gefnogi.”

Dywedodd Nia Singleton, Rheolwr Cyswllt Cymunedol Cymru Tata Steel:

“Mae’r ymrwymiad gan y plant i’w ganmol, ac ymhlith manteision chwaraeon, y tu hwnt i ffitrwydd, mae sgiliau gweithio mewn tîm, cyfathrebu a thegwch, a dyna hanfod y bartneriaeth hon.”