Llun Lwyddiant

Diweddariad i’r erthygl wreiddiol a gyhoeddwyd ar 7fed Ionawr 2019

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Alexandra wedi ennill gwobr Dewis y Bobl yn y Gwobrau Ffotograffiaeth Prydeinig, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Savoy Llundain, ar gyfer ‘Lavender Princesses’. Meddai, “Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a bleidleisiodd dros fy llun ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl, rwy’n wirioneddol ddiolchgar am yr holl gefnogaeth yr wyf wedi’i chael. Mae Misty a Beauty o’r Ymddiriedolaeth The Freedom of Spirit ar gyfer cŵn defaid y Gororau. Mae eu perchennog wedi gwneud gwaith gwych gyda hwy ac roedd yn bleser tynnu llun ohonynt. Rwy’n gobeithio y bydd eu llun yn gwneud pawb mor hapus ag yr oedden nhw.”

Llongyfarchiadau Alexandra!

 

Hoffai Grŵp Colegau NPTC ddymuno pob lwc i’n alumni Coleg y Drenewydd Alexandra Robins, sydd wedi’i henwebu ar gyfer y Gwobrau Ffotograffiaeth Prydeinig 2019.

Cynhelir y gwobrau Ffotograffiaeth Prydeinig cyntaf yng Ngwesty’r Savoy, Llundain ar 28 Ionawr 2019, gyda dros 3,700 o ffotograffwyr yn cyflwyno eu gwaith i dîm o arbenigwyr.

Mae ffotograff ‘Lavender Princessess’ Alex, a gymerwyd yng Ngwlad yr Haf, wedi’i ddewis fel un o’r cyflwyniadau gwych ar y rhestr fer yn y categori ‘Anifeiliaid Anwes a Dof’.

Yr enwebiad hwn eleni yw’r diweddaraf mewn rhestr hir o anrhydeddau yng ngyrfa Alex hyd yma, yn dilyn ei gwobr 1af yng nghategori Anifeiliaid Anwes y Gwobrau Ffotograffiaeth Prydeinig 2017, 1af yn y Categori Cŵn Achub Gwobrau Ffotograffydd Cŵn y Flwyddyn 2017 a hefyd yn cael ei gwaith wedi’i gynnwys mewn cyhoeddiadau megis Digital Camera a Dogs Today.

Dechreuodd daith Alex i ffotograffiaeth yng nghanolbarth Cymru, lle y daeth o hyd i’w chariad at fywyd gwyllt a chefn gwlad wedi symud i’r ardal o Dubai gyda’i theulu.

Ar ôl cael ei chamera digidol cyntaf yn 15 oed, nid yw wedi rhoi’r gorau i dynnu lluniau ers hynny ac aeth ymlaen i astudio Celf a Dylunio yng Ngholeg y Drenewydd.

Dilynodd gwrs BA Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, gydag Alex bellach yn byw yn Wiltshire gyda’i phartner ac yn cynnig sesiynau ar gyfer cipio lluniau o’ch anifeiliaid anwes hoffus!

Pob lwc unwaith eto i Alex yn y gwobrau! Gallwch ddarganfod mwy am ei gyrfa ffotograffiaeth ar ei gwefan: www.akrobinsphotography.com