Gwaith sychedig ar gyfer myfyrwyr drama Grŵp Colegau NPTC

Agorodd Canolfan y Celfyddydau Nidum Grŵp Colegau NPTC ei drysau i gynhyrchiad arbennig a dosbarth meistr gan y cwmni arobryn ‘Papur Birds’ yn ddiweddar.

Perfformiwyd ‘Thirsty’ er pleser myfyrwyr y Coleg gan y cwmni theatr arobryn a daeth tua 100 o ddisgyblion o ysgolion a cholegau lleol, cyn mwynhau dosbarth meistr gyda’r actorion.

Mae ‘Paper Birds’ yn gwmni theatr arobryn a sefydlwyd yn 2003 ar sail cyfeillgarwch a chariad cydfuddiannol tuag at theatr gyfoes, drwy wneud gwaith sy’n gosod rolau menywod ar ganol y llwyfan. Mae’r cwmni yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn delio â phynciau gwleidyddol-gymdeithasol gan eu gwneud yn hygyrch ac ymwelodd y cwmni â’r UDA, y Weriniaeth Tsiec, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, yr Eidal, Iwerddon a’r Swistir gyda’u perfformiadau a’u gweithdai.

Dywedodd y darlithydd Zoe Arrietta sy’n addysgu Safon U mewn Drama ac Astudiaethau Theatr:

” Disgrifiwyd cynhyrchiad y ‘Paper Birds’ gan y Telegraph yn ddiweddar fel ‘An Energetic Roller-coaster’ ac yn sicr roedd hynny’n wir! Roedden ni wrth ein bodd ei bod yn bosibl i gynifer o ysgolion lleol ymuno â’n myfyrwyr ar gyfer y perfformiad ac roedd y dosbarth meistr ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio drama yn y Coleg yn brofiad ffantastig arall ac yn gyfle gwych i’r myfyrwyr weithio gydag actorion o’r diwydiant.”