Parti Nadolig y Gweilch

Mae staff a myfyrwyr Blasus, bwyty hyfforddi Grŵp Colegau NPTC, wedi helpu i fwydo tîm y Gweilch gyda danteithion Nadoligaidd cyn eu gêm yn erbyn Stade Francais Paris y penwythnos hwn yn y Stadiwm Liberty.

Am y bumed flwyddyn yn olynol, mwynhaodd y Gweilch dwrci a thrimins a baratowyd gan staff a myfyrwyr lletygarwch yn y bwyty poblogaidd a leolir yng Nghastell-nedd. Aeth y tîm yn syth ati i fwynhau ysbryd y Nadolig drwy dynnu cracers Nadolig a dweud eu hoff jôcs Nadoligaidd. Cystadlodd ein cyn-fyfyriwr Justin Tipuric yn erbyn Sam Cross mewn cystadleuaeth jôcs cracers Nadolig, a gallwch eu gweld ar ein sianeli’r cyfryngau cymdeithasol yn unig.

Roedd myfyrwyr a staff y Coleg wrth eu bodd i groesawu’r tîm, ond cofiwch nad ar adeg y Nadolig yn unig y maent wrthi’n gweithio’n galed. Mae gan y bwyty unigryw, y siop goffi a’r becws sy’n agored i’r cyhoedd enw da am eu rhagoriaeth yn y celfyddydau coginio, arlwyo a lletygarwch, ac mae wedi bod yn hyfforddi myfyrwyr a gwasanaethu’r gymuned am fwy na 50 mlynedd.

Dywedodd Justin Tipuric capten y Gweilch: “Mae Cinio Nadolig y tîm ym mwyty Blasus yn draddodiad y Gweilch ar adeg hon y flwyddyn erbyn hyn ac rydyn ni’n ddiolchgar i gael ein gwahodd yn ôl bob blwyddyn.

“Mae cynifer ohonon ni yn y tîm yn gyn-fyfyrwyr y Coleg felly mae’n wych i ni allu ymweld â Blasus ac mae’n ffantastig i’r bechgyn fwynhau pryd o fwyd sydd bob amser yn wych ac a baratowyd gan y myfyrwyr presennol. Mae gennym berthynas agos gyda Grŵp Colegau NPTC ac mae hyn yn un rhan yn unig o’r berthynas honno ond rhan ein bod yn ei mwynhau!”

Dywedodd Paul Pearce, Dirprwy Bennaeth Lletygarwch ac Arlwyo yn y Coleg: “Mae’n brofiad gwych ar gyfer y myfyrwyr sy’n paratoi a gweini bwyd fel rhan o’u hyfforddiant. Dyma’r ffordd orau o ddysgu ac rydym yn falch iawn bod y Gweilch yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn.”