Arswyd yn yr Amgueddfa

Mae myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth o Goleg Castell-nedd wedi bod yn brysur yr hanner tymor hwn, yn trefnu ac yn rhedeg digwyddiad Calan Gaeaf dychrynllyd yn Amgueddfa Glowyr De Cymru ym Mharc Fforest Afan.

Cynhaliwyd y digwyddiad, a oedd wedi’i anelu at blant lleol,  ddydd Gwener 2 Tachwedd ac fe’i hystyriwyd yn llwyddiant enfawr, gyda theuluoedd yn dod o bob cwr o Gastell-nedd Port Talbot i gael eu diddanu a’u brawychu fel ei gilydd. Aeth yr ymwelwyr ar daith ysbrydion arswydus ar y llwybr treftadaeth hunllefaidd  ac edrych o gwmpas yr amgueddfa, a gafodd ei thrawsnewid yn lofa llawn bwganod gyda straeon brawychus yn cael eu hadrodd.

Treuliodd y myfyrwyr yr wythnos gyfan yn gweithio gyda staff o’r amgueddfa i drefnu a hyrwyddo’r digwyddiad. Neilltuwyd rhan gyntaf yr wythnos i addurno blaen yr amgueddfa a’r llwybr treftadaeth, wrth feddwl am y ffordd orau i hyrwyddo’r digwyddiad gyda thaflenni, pamffledi a sylw yn y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ogystal ag ochr greadigol y prosiect, roedd myfyrwyr yn gallu cael cipolwg ar y gwaith o redeg yr amgueddfa o ddydd i ddydd a mireinio eu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid. Cawsant hefyd gyfle i siarad â chyn-lowyr a chlywed eu straeon am weithio ym mhyllau glo Cwm Afan. Roedd rhai o’r straeon yn cynnig deunydd perffaith ar gyfer y straeon brawychus y byddent maes o law yn eu hailadrodd i ymwelwyr.

Dywedodd y darlithydd Tina Williams: “Bu hwn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr, gan weithio ochr yn ochr â staff yn Amgueddfa Glowyr De Cymru i ddathlu Calan Gaeaf gyda’r digwyddiad arswydus hwn. Maent wedi dysgu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a threfnu digwyddiadau gwerthfawr, a fydd yn ffurfio rhan o’u prosiect cymunedol Bagloriaeth Cymru. Maent wedi helpu hefyd i godi proffil yr amgueddfa a’i threftadaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot.”

Dywedodd Will Sims, Swyddog Casgliadau yn Amgueddfa Glowyr De Cymru: “Mae wedi bod yn wych i gael y myfyrwyr yma. Maen nhw wedi bod yn gymwynasgar iawn wrth helpu’r amgueddfa i ddod yn fwy deniadol i gynulleidfa iau. Rwy’n credu eu bod wedi elwa llawer o’r profiad; gan weithio gyda’r cyhoedd a threfnu’r digwyddiad gan ddefnyddio’u menter eu hunain.”

 

Pic Caption: Myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth blwyddyn gyntaf wrth y fynedfa i’r lofa bwganod yn eu digwyddiad Calan Gaeaf.