Dwy Fedal Aur i Katie

Enillodd myfyriwr chwaraeon Grŵp Colegau NPTC Katie Eley ddwy fedal aur arbennig ym Mhencampwriaethau Taekwondo Prydain y penwythnos diwethaf yn Sheffield.

Enillodd Katie, sy’n astudio Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth), fedal aur yn y categori Iau 59kg a’r categori Hŷn 57kg ar yr un diwrnod yn Athrofa Chwaraeon Lloegr, gyda dim ond egwyl fer i gael cinio cyflym a hoe fach rhwng y rowndiau rhagarweiniol a’i dwy rownd derfynol!

Mae Katie ar y trywydd iawn i ennill Rhagoriaeth Driphlyg (D* D* D*) yn ei chymhwyster BTEC, ar ôl cyflawni Rhagoriaeth Ddwbl (D* D*) eisoes yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn Academi Chwaraeon Llandarcy. Roedd hi eisoes wedi cynrychioli Tîm Taekwondo Paralympaidd Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau’r Byd 2017 yn Llundain.

Yn chwaraewr dawnus yn gyffredinol, mae Katie hefyd yn cystadlu ar lefel uchel mewn pêl-rwyd ac ar hyn o bryd mae’n cynrychioli Tîm Cyntaf Academi Pêl-rwyd y Coleg fel Ymosodwr Gôl.

Dywedodd Sali Ann Millward, Dirprwy Bennaeth Ysgol: Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus: “Rydym yn hynod o falch o gyflawniadau Katie yn ei champ ac mae’n llawn haeddu’r llwyddiant hwn. Mae hi’n llysgennad gwych dros ein hadran ac yn fodel rôl ar gyfer yr holl fyfyrwyr chwaraeon! Rydym yn edrych ymlaen at weld beth ddaw yn y dyfodol i Katie wrth iddi gystadlu ar y lefel uchaf yn ei champ”.

 

Pic Caption: Katie gyda’i dwy fedal Aur ym Mhencampwriaethau Taekwondo Cenedlaethol Prydain.