Owzat! Cafodd y clwb criced ei fwrw’n bedwar gan sgiliau gwaith coed disgyblion

Mae gan Glwb Criced Port Talbot set o ffensys polion gwyn sgleiniog diolch i gefnogaeth y darlithydd Paul Davies o Goleg Castell-nedd a’i fyfyrwyr yn ogystal â disgyblion Ysgol Bae Baglan.

Gyda llygad barcud Paul arnynt, gweithiodd y disgyblion yn galed i greu’r ffensys ar y dyddiau a dreuliwyd ganddynt yng Ngweithdy Gwaith Coed Cymunedol Uned 10 yn Heol Addison, Sandfields. Aeth y disgyblion hefyd i Goleg Castell-nedd lle yr oedd myfyrwyr y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn mewn gwaith coed a pheintio ac addurno wrth law i’w helpu.

Ariannir Uned 10 gan Addysg Oedolion Cymru – addysg annibynnol wirfoddol i oedolion sy’n anelu at hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a dysgu o’r ansawdd flaenaf ar draws Cymru.

Yr amcan yw darparu hyfforddiant seiliedig yn y gweithdy sy’n canolbwyntio ar waith coed i helpu pobl ifanc i adeiladu eu hyder a chamu ymlaen tuag at y byd gwaith. Gwnaeth y disgyblion rhwng 15 a 16 oed y ffensys fel rhan o’u gwersi am ddeunyddiau gwrthiannol yn Ysgol Bae Baglan; prosiect a gafodd ei oruchwylio gan Paul.

Mae cangen Port Talbot o’r cwmni cyflenwi adeiladu cenedlaethol LBS hefyd wedi chwarae rhan yn y prosiect drwy dalu am yr holl ddeunyddiau – yr hoelion a phopeth!.

Dywedodd Cadeirydd Clwb Criced Port Talbot Mark Jones: Dim ond o ganlyniad i sgwrs ar hap gyda Paul y cafodd y prosiect ei ddechrau.

“Ar ôl siarad â Paul, daeth popeth at ei gilydd ac rydyn ni wrth ein bodd gyda’r canlyniad. Hoffai’r Clwb ddweud diolch i bawb am ei gefnogaeth.”