Mae Grŵp Colegau NPTC yn arwain y ffordd yn y Gynghrair Addysg Tsieineaidd

Mae Grŵp Colegau NPTC yn arwain y ffordd ar gyfer y DU wrth iddo arwyddo cytundeb gyda Tsieina a allai olygu hwb mawr i’r economi Brydeinig.

Mae’r Coleg yn arwyddo cytundeb gyda cholegau Tsieineaidd I greu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Addysg Alwedigaethol Brydeinig yn Tsieina a fydd yn ganolfan ar flaen y gad (CEBVEC).  Bydd y rhaglen CEBVEC yn galluogi Tsieina I ddatblygu sgiliau mawr eu hangen er mwyn hwyluso darpariaeth y strategaeth ddatblygu economaidd yn Tsieina sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu uwch-dechnoleg. Mae’r ganolfan yn rhan o’r Gynghrair Cydweithio a Datblygu Addysg Alwedigaethol Tsieina-Prydain sy’n ymrwymedig i hyrwyddo cydweithrediad agos rhwng Tsieina a Phrydain ym maes addysg alwedigaethol.

Bydd y rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar hyfforddi athrawon yn Tsieina I’w helpu i ddarparu dysgu ac addysgu sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr yn ôl glasbrint modern y DU.  Ar hyn o bryd, mae gan Tsieina fwy na 12,000 o golegau galwedigaethol a 27 miliwn o fyfyrwyr galwedigaethol – y system addysg alwedigaethol fwyaf yn y byd.

Dywedodd Steve Rhodes, Pennaeth Cynorthwyol: Gweithrediadau Byd-eang Grŵp Colegau NPTC, a gafodd ei benodi fel Cadeirydd Anrhydeddus y Gynghrair, ei fod yn gyfle gwych i Tsieina a’r DU.

“Mae bod yn rhan o’r Gynghrair yn fraint ac yn anrhydedd mawr. Hoffem ddweud diolch yn arbennig i’r Adran Masnach Ryngwladol, y Cyngor Busnes Tsieina-Prydain a’r Cyngor Prydeinig am eu cefnogaeth a chymorth i alluogi’r DU i gael budd o’r prosiect hwn, lle y byddwn yn ymgysylltu â miliynau o fyfyrwyr Tsieineaidd a phartneriaethau gyda miloedd o golegau yn Tsieina.”

Ychwanegodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Dwi’n falch bod Grŵp Colegau NPTC yn arwain y ffordd yn y DU o ran datblygiadau Sino-Tsieina-DU ym maes addysg alwedigaethol – mae gan y ddwy ohonon ni, fel cenhedloedd gwych, lawer y gallwn ei rannu gyda’n gilydd.

“Mae’r Gynghrair ‘nawr yn rhoi platfform strategol i ni ddod at ein gilydd.  Gallwn ni, yn Tsieina a’r DU, trwy gyfrwng y Gynghrair, hybu cefnogaeth ehangach o’n hamcanion trwy ein Llywodraethau ac Adrannau ac Asiantaethau ein Llywodraethau.”

Ni fydd y rhaglen yn cwmpasu Grŵp NPTC yn unig.  Bydd y fframwaith yn gofyn am gymorth gan golegau AU Cymreig eraill a cholegau ar draws y DU i ddarparu’r rhaglen a bydd y colegau partner hyn yn gweld llawer o fuddion.

Mae hyn yn golygu symudedd cymdeithasol am filoedd o fyfyrwyr Tsieineaidd na fyddai modd iddynt dderbyn addysg o safon ryngwladol oni bai am y rhaglen.  Mae cynlluniau ar draed i ddatblygu’r prosiect a allai olygu mwy o gysylltiadau gyda phrifysgolion o fri yn y DU, a fydd hyn yn ehangu’r symudedd cymdeithasol a llwyddiant masnachol y rhaglen ar y cyd.

Capsiwn ar gyfer y llun: Steve Rhodes, Pennaeth Cynorthwyol: Gweithrediadau Byd-eang yng Ngrŵp Colegau NPTC yn y cyfarfod agoriadol ac arwyddo’r Gynghrair Cydweithio a Datblygu Addysg Alwedigaethol Tsieina-Prydain yn Tsieina.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: marketing@nptcgroup.ac.uk