Ysgol Adeiladwaith Grŵp Colegau NPTC yn ymuno â’r Lleng Brydeinig Frenhinol i nodi 100 mlynedd

Mae myfyrwyr o ganolfan Sgiliau Adeiladwaith Grŵp Colegau NPTC sy’n astudio Diploma Lefel 1 mewn Plastro wedi bod yn cynnig eu sgiliau i helpu eu cymuned leol a’r Lleng Brydeinig Frenhinol wrth baratoi ar gyfer dathliad 100 mlynedd y Cadoediad sydd ar ddod.

Bydd yr arddangosfa 1918 yn cael ei chynnal yn Swyddfeydd Cyngor Maesteg, i goffau’r rhai a gollodd eu bywydau yn y rhyfel, gan gynnwys y 114 o bobl o gymuned Maesteg.

Mae’r cwmnïau canlynol i gyd yn cymryd rhan yn y prosiect, gan roi deunyddiau a’u llafur tuag at arddangosfa 1918: Grŵp Colegau NPTC, LBS Builders Merchants & Travis Perkins Builders.

Dywedodd y myfyrwyr: “Bu’n brofiad gwych i helpu gyda phrosiect cymunedol a dysgu am straeon y milwyr o Faesteg yn ystod y Rhyfel Byd cyntaf. Byddwn yn parhau i helpu gyda’r prosiect hwn ac edrychwn ymlaen at ddangos y byrddau gorffenedig.”

Sefydlwyd y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Sir Bro Morgannwg yn 1921 ac mae ganddi18 cangen yn ardal de-ddwyrain Cymru. Dywedodd cadeirydd cangen Maesteg, Stuart Bevan: “Rydyn yn ddiolchgar iawn i bawb sy’n gysylltiedig â hyn a’r rhoddion o ddeunyddiau o bren i ddrysau wedi’u hailgylchu. Mae’r myfyrwyr wedi bod yn wych ac mae wedi bod yn hyfryd eu gweld nhw’n defnyddio sgiliau diwydiant proffesiynol i gymryd rhan mewn darn o hanes.”

Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal yn Swyddfeydd y Cyngor ym Maesteg ym mis Hydref gydag arddangosfa goffaol i nodi 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf gyda chadoediad yn cael ei ddatgan ar 11 Tachwedd.

Enwyd adran blastro Grŵp Colegau NPTC y gorau yn y DU am ail flwyddyn ragorol yn olynol. Mae’r Coleg newydd dderbyn tlws John G. Robinson gan Feistr a Wardeiniaid  Cwmni Anrhydeddus y Plastrwyr am fod yr adran blastro orau ei pherfformiad cyffredinol yn y DU.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am yrfa mewn adeiladwaith yng Ngrŵp Colegau NPTC, cysylltwch â ni ar 01639 648000 neu cliciwch yma am ragor o wybodaeth. am y cyrsiau a gynigir yn ein Hysgol Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig.

 

Pic:

Barbara Bevan (Aelod Pwyllgor ac Ymddiriedolwr y Lleng Brydeinig Frenhinol)

Stuart Bevan (Cadeirydd y Lleng Brydeinig Frenhinol)

Roy Meredith (Ysgrifennydd y Lleng Brydeinig Frenhinol)

Colin Roberts (Cludwr Rhanbarth y Lleng Gymreig)

Jamie Hopes (Cludwr Rhanbarth y Lleng Gymreig)

Ryan Richards (Darlithydd Grŵp Colegau NPTC)

Cian Jenkins (Myfyriwr Grŵp Colegau NPTC)

Scott Raynor (Myfyriwr Grŵp Colegau NPTC)