Beth yw’r Prosiect Tyfu Canolbarth Cymru?
Mae’r prosiect Tyfu Gyrfaoedd Canolbarth Cymru yn anelu at symleiddio’r broses profiad gwaith, gan ei wneud yn haws i gyflogwyr a sefydliadau academaidd ymgysylltu a threfnu lleoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr. Bydd cyflogwyr yn profi proses wedi’i symleiddio er mwyn cynnig lleoliadau profiad gwaith, a allai eu helpu i adnabod gweithwyr potensial ar gyfer y dyfodol a gwella eu henw da yn y gymuned. Bydd ysgolion a cholegau yn elwa o fynediad haws i leoliadau profiad gwaith ar gyfer eu myfyrwyr, rhywbeth a allai wella deilliannau addysgol a rhagolygon gyrfa yn y dyfodol ac felly’n annog y boblogaeth ifanc i aros o fewn i’r ardal.
Eisiau gwybod mwy?
Amcanion y Prosiect
- Cynhyrchu platfform defnyddiwr-gyfeillgar ar gyfer cyflogwyr er mwyn iddynt allu hysbysebu cyfleoedd profiad gwaith
- Creu cyfleoedd ar gyfer myfyrwyr i ddod o hyd i ac ymgeisio am leoliadau profiad gwaith
- Gwella cyfathrebu a chydweithio rhwng cyflogwyr, academyddion a myfyrwyr gan arwain at well gyflleoedd profiad gwaith a deilliannau.
Nodweddion Allweddol yr Ap:
Bydd yr ap yn cynnwys nodweddion megis:
- Cofrestru Cyflogwyr: Bydd modd i gyflogwyr gofrestru yn yr ap a chreu proffil sy’n rhoi manylion am y mathau o leoliadau profiad gwaith sydd ar gael ganddynt
- Cofrestru Sefydliadau Academaidd: Bydd modd i ysgolion a cholegau hefyd gofrestru yn yr ap a chreu proffiliau sy’n rhoi manylion am faint o leoliadau sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu myfyrwyr a‘r math o leoliadau sydd eu heisiau.
- Paru proffiliau: Bydd yr ap yn paru cyflogwyr â sefydliadau addysgol a’u cysylltu â’i gilydd yn seiliedig ar eu proffiliau a’u dymuniadau.
- Rheoli Lleoliadau: Bydd lleoliadau profiad gwaith yn cael eu rheoli trwy’r ap, yn cynnwys amserlennu a chyfathrebu.
- Adborth a Gwerthuso: Bydd yr ap yn cynnwys adborth a system gwerthuso a fydd yn casglu adborth am brofiadau er mwyn gwella’r gwasanaeth.
Cronfa Ffyniant Gyffredin
Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhan o agenda Ffyniant llywodraeth y DU ac yn rhan arwyddocaol o’i gymorth ar gyfer llefydd ar draws y DU.
Lluosi – Materion Rhifedd
Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar gefnogi cyflogwyr lleol wrth ddatblygu sgiliau rhifedd eu gweithlu.
Datblygu Sgiliau Sero Net (Powys)
Mae’r prosiect hwn yn darparu cymorth wedi’i deilwra i gyflogwyr a gywbodaeth mewn perthynas â Datblygu Sgiliau Sero Net.
Inswleiddio Powys
Mae’r prosiect hwn yn anelu at greu capasiti yn yn sector gosodwyr lleol a chreu galw am inswleiddio tai ymhlith adeiladau ym Mhowys.