Bwrsariaethau ar Gyfer Myfyrwyr sy’n Perfformio i’r Eithaf

Cafodd ymdrechion ei fyfyrwyr newydd sbon eu cydnabod gan Grŵp Colegau NPTC wrth iddo gyflwyno nifer o fwrsariaethau hael mewn seremoni a gynhaliwyd yng Ngholeg Castell-nedd.

Am y 14 blynedd ddiwethaf, mae’r Coleg wedi dyfarnu bwrsariaethau o £1,500 i’r myfyrwyr newydd a dderbynnir o ysgolion cyfun partner ac a gyflawnodd y canlyniadau gorau yn eu harholiadau TGAU.

Cyflwynwyd tystysgrif a bwrsari i’r myfyrwyr a berfformiodd i’r eithaf ar draws Grŵp Colegau NPTC i’w hannog i ddatblygu eu sgiliau, a dilyn, gobeithio, cyn-fyfyrwyr gan gynnwys un  myfyriwr blaenorol, o Ysgol Bae Baglan, Si Wai Hui, a dderbyniodd y fwrsariaeth academaidd ac aeth ymlaen i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.  Astudiodd Si Wai gymwysterau Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg yn y Coleg, gan gyflawni A* ym mhob un o’r tri phwnc yn ogystal ag Aur yn yr Olympiad Bioleg yn 2019.

Dyfernir ysgoloriaethau hefyd i helpu myfyrwyr sydd â gallu chwaraeon neu allu creadigol eithriadol i ddatblygu eu talentau i’w potensial mwyaf, ar yr un pryd â llwyddo yn eu hastudiaethau academaidd. Cafodd y derbynwyr eleni eu hymuno gan Lysgenhadon newydd y coleg, mathemategwyr ifanc a’r rhai sy’n egin beirianwyr a oedd hefyd yn derbyn bwrsariaeth yn y seremoni.

Ymunodd rhieni, staff y coleg, a nifer o benaethiaid o ysgolion bwydo lleol â’r myfyrwyr ac roeddent yn awyddus i weld gwaith caled eu cyn disgyblion yn cael eu gwobrwyo.  Roedd hyn yn cynnwys Pennaeth Blwyddyn 11 Ysgol Gyfun Dŵr-y-felin, Keith Williams a dywedodd:

‘Rwy’n hynod o falch bod ein cyn disgyblion i gyd yn cael eu cydnabod yma heddiw.  Roeddent yn grŵp blwyddyn eithriadol ac roeddent yn gweithio’n aruthrol o galed i gyflawni eu canlyniadau TGAU rhagorol. ‘

‘Mae’n wych bod y Coleg yn gallu rhoi’r bwrsariaethau hyn, ac mae’n gymhelliant mor fawr i fyfyrwyr i weithio’n galed a chael y canlyniadau gorau hynny yn eu cymwysterau TGAU. ‘

Roedd is-bennaeth Gwasanaethau Academaidd Grŵp Colegau NPTC, Judith Williams, wrth law i roi’r bwrsariaethau i’r myfyrwyr a dywedodd fod yr arian wedi helpu myfyrwyr blaenorol a oedd wedi camu ymlaen i lefel gradd a thu hwnt.

Dywedodd Judith: “Y myfyrwyr sy’n cael bwrsariaethau heddiw yw’r gorau o’r goreuon. Rydym yn falch iawn o’u gwobrwyo am eu llwyddiannau eithriadol. Mae rhai o’n henillwyr blaenorol wedi mynd ymlaen i astudio yn rhai o’r prifysgolion gorau yn y wlad.’

Eleni, derbyniodd tua 70 o bobl ifanc o Grŵp Colegau NPTC wobrau a dymunwn longyfarchiadau i’r canlynol:

(Cliciwch yma i weld ein horiel luniau lawn)

BURSARIES – ACADEMIC
Chloe Evans Birchgrove
Emily Darney Cefn Hengoed
Jodie Langdon Cefn Saeson
Hannah Parel Cefn Saeson
Alfie Richards Cefn Saeson
Ffion Titcombe Cwmtawe
Elli Jones Cymer Afan
Nzringha Jarvis Dwr-y-Felin
Luke Powell Dwr-y-Felin
Rhys James Dwr-y-Felin
Benjamin Jeffs Dwr-y-Felin
Sofia Lambert-Jones Dwr-y-Felin
Lewis Thorne Dwr-y-Felin
Jamie Melin Dwr-y-Felin
Hannah Griffiths Llangatwg
Jay Haley Ysgol Bae Baglan
Lois Boziliovic Ysgol Bae Baglan
Jacob Bailey Ysgol Cwm Brombil
Angharad John Ysgol Bryn Tawe
Carissa Choi Ysgol Gyfun Ystalyfera
Jane Donovan Ysgol Gyfun Ystalyfera
BURSARIES – ELITE SPORT
Ciaran Comerford Cefn Saeson Comprehensive School
Daniel Edwards Ysgol Gyfun Ystalyfera
Chloe Evans Ysgol Bae Baglan
Hannah Garnett Pen-Y-Dre High School
Ffion Maddock Cefn Saeson Comprehensive School
Victoria Powney Ysgol Bae Baglan
SPORT AND CULTURAL SPORT
Harvey Donovan St Joseph’s RC
Demi Carlyle Edwards Ysgol Cwm Brombil
Georgia Howells Cefn Saeson Comprehensive School
Katelyn Kneath Cwmtawe Comprehensive School
Niamh Thomas St Joseph’s RC
Sophie Topper Dwr-Y-Felin Comprehensive School
Lowri Wareham St Joseph’s RC
SPORT AND CULTURAL CULTURAL
Jordan Cranny Dwr Yr Felin Comprehensive School
Evan Elias Dwr-Y-Felin Comprehensive School
Casey-Jane Lewis Ysgol Bae Baglan
Cellan Thomas Morgan Llangatwg Comprehensive School
Issabelle Emily Alaina Purser Ysgol Bae Baglan
Lucy Jayne Thomas Dwr-Y-Felin Comprehensive School
Alicia Catherine Williams Ysgol Bae Baglan
Sophie Alexandra Williams Dwr-Y-Felin Comprehensive School
VOCATIONAL EXCELLENCE
Bragg Rachel Dwr-Y-Felin Comprehensive School
Isabelle Lilly Coombs Ysgol Gyfun Ystalyfera
Conor Drain Brecon High School
Elin Wyn Orrells Ysgol Uwchradd Caereinion
Elis Tudor Newtown High School
AMBASSADORS
Jacob Bailey Ysgol Cwm Brombil
Aiden Daniel
Amy Catrin Davies Newtown High School
Chloe Davies
Prys Eckley Builth Wells High School
Ana Godsell
Kelsey Mai Hughes Dwr-Y-Felin Comprehensive School
Seren Mia Haf Hughes Dwr-Y-Felin Comprehensive School
Shannon Jarrett Ysgol Bae Baglan
Emily Jerman Ysgol Uwchradd Caereinion
Cerys Jones Cwrt Sart Comprehensive School
Cerys Ella Jones Ysgol Uwchradd Caereinion
Maia Jutsum Dwr-Y-Felin Comprehensive School
Con McCafferty Cwmtawe Comprehensive School
Chloe Owen Newtown High School
Ellie Phillips Ysgol Gyfun Ystalyfera
Leah-Mai Richards Ysgol Uwchradd Caereinion
Sophie Shaw Builth Wells High School
Emily Smith Cwmtawe Comprehensive School
Rebecca Walsh Cwrt Sart Comprehensive School
Seren Webber Ysgol Gyfun Ystalyfera
SWIEET ENGINEERING
Spencer Peters Cefn Saeson
Charlie Davies Cefn Saeson