Cyflwyniad
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â rheoli addysgu a dysgu o fewn y sefydliad, gan gynnwys mecanweithiau ar gyfer adolygu a sicrhau ansawdd yr addysgu a ddarperir.
7.1 Dyddiadau Academaidd
Disgrifiad:
Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys gwybodaeth am ddyddiadau’r tymhorau ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol, yn ogystal â blynyddoedd academaidd sydd i ddod (cyhyd â’u bod yn hysbys).
7.2 Gwybodaeth Bellach am Gyrsiau
Disgrifiad:
Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud ag ysgolion ac adrannau penodol, a hefyd gwybodaeth sy’n ymwneud â rhaglenni a chymwysterau.
- Dyddiadau’r tymhorau
- Strwythur y cyrsiau
- Cymwysterau a enillir
- Newid cyrsiau
- Profiad gwaith
7.3 Gwybodaeth am weithdrefnau mewnol ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau academaidd
Disgrifiad:
Dylai’r dosbarth hwn gynnwys gwybodaeth am raglenni archwilio ansawdd mewnol ac adolygiad blynyddol y sefydliad. Dylai hefyd gynnwys gwybodaeth am weithdrefnau mewnol y coleg Addysg Bellach ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau academaidd. Mae enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnwys:
a) Gwybodaeth am gymeradwyo, monitro ac adolygu rhaglenni:
- Manylebau rhaglenni
- Prosesau monitro ac adolygu blynyddol
- Adroddiadau achredu a monitro gan gyrff proffesiynol, statudol neu reoleiddiol
b) Gwybodaeth am weithdrefnau asesu a chanlyniadau:
- Strategaethau, prosesau a gweithdrefnau asesu
- Ystod a natur gwaith y myfyrwyr
c) Gwybodaeth am foddhad myfyrwyr â’u profiad yn y coleg, gan gwmpasu barn myfyrwyr ar:
- Drefniadau ar gyfer cyfarwyddyd, cymorth a goruchwyliaeth academaidd a thiwtoraidd
- Gwasanaethau llyfrgell a chymorth TG
- Addasrwydd yr adeiladau, offer a’r cyfleusterau ar gyfer addysgu a dysgu
- Canfyddiadau o ansawdd yr addysgu ac ystod y dulliau addysgu a dysgu
- Trefniadau asesu
- Ansawdd y cymorth bugeiliol
d) Gwybodaeth a thystiolaeth sydd ar gael i dimau sy’n ymgymryd ag adolygiadau mewnol o ansawdd a safonau mewn perthynas ag:
- Effeithiolrwydd yr addysgu a’r dysgu, mewn perthynas â nodau’r rhaglenni a chynnwys y cwricwlwm wrth iddynt esblygu dros amser
- Ystod y dulliau addysgu a ddefnyddir
- Argaeledd a’r defnydd o offer arbenigol ac adnoddau a deunyddiau eraill i gefnogi addysgu a dysgu
- Mynediad staff at ddatblygiad proffesiynol i wella eu perfformiad wrth addysgu, gan gynnwys rhaglenni arsylwi gan gymheiriaid a mentora.
Y defnydd o feincnodi allanol a chymaryddion eraill.
7.4 Strwythur staffio ysgolion / adrannau
Disgrifiad:
Dylai’r dosbarth hwn gynnwys gwybodaeth am rolau staff o fewn ysgolion ac adrannau, ynghyd â siartiau sefydliadol. Mae enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnwys:
- Teitlau swyddi staff academaidd a staff cymorth
- Manylion cyswllt ar gyfer pob ysgol / adran
7.5 Strategaeth Asesu Myfyrwyr
Disgrifiad:
Dylai’r dosbarth hwn gynnwys gwybodaeth am y rheoliadau a/neu’r polisi sy’n rheoli asesiadau myfyrwyr. Mae enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnwys:
- Cyfnodau arholiadau
- Rheoliadau arholiadau
- Gweithdrefnau apelio
- Polisi ar lên-ladrad
- Cyrff arholi allanol
7.6 Ffioedd Dysgu
Disgrifiad:
Dylai’r dosbarth hwn gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr o’r DU, myfyrwyr o’r UE a myfyrwyr rhyngwladol eraill, gan gynnwys gwybodaeth ynglyn â phryd y bydd ffioedd dysgu yn daladwy a sut i dalu. Mae enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnwys:
- Gwybodaeth i fyfyrwyr cartref / yr UE
- Gwybodaeth i fyfyrwyr rhyngwladol
- Gwybodaeth am daliadau eraill.