SAFONAU’R IAITH GYMRAEG
Ers 1 Ebrill 2018, mae Grŵp Colegau NPTC wedi disodli ei ‘Gynllun Iaith Gymraeg’ gyda ‘Pholisi Iaith Gymraeg’. Mae’r Polisi yn disgrifio sut y bydd y Coleg yn sicrhau cydymffurfiaeth statudol â Safonau Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru.
Mae’r Polisi yn atgyfnerthu ymrwymiad y Coleg i egwyddor ac arfer triniaeth gyfartal o ran yr iaith Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r Polisi yn destun monitro, adolygu ac adrodd blynyddol ar gyflawni’r targedau a geir yn y Polisi. Mae copi o’r polisi ar gael yn ein derbynfeydd cyhoeddus a gellir ei lawrlwytho yn electronig drwy glicio ar y linc isod. Fel arall, gellir cael copi caled drwy gysylltu â:
Valerie Hughes
Grŵp NPTC
Heol Dŵr-y-Felin
Castell-nedd
SA10 7RF
Rhif ffôn: 01639 648357
E-bost: val.hughes@nptcgroup.ac.uk