Anrhydeddwyd rhai o sêr chwaraeon disgleiriaf a mwyaf addawol Grŵp Colegau NPTC yn y seremoni Gwobrau Chwaraeon flynyddol yng Nghlwb Rygbi Castell-nedd. Roedd y digwyddiad – a noddwyd gan Ponty Butchers, Hydrachill, Academi Chwaraeon Llandarcy ac A&M Scaffolding – yn cydnabod talentau myfyrwyr mewn disgyblaethau o athletau i godi pwysau.
Aberthodd dau o garfan presennol y Gweilch – Adam Beard a Ma’afu Fia – ychydig o’u hamser hyfforddi i gyflwyno’r gwobrau.
Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o’i etifeddiaeth chwaraeon bwysig, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus a chael cydnabyddiaeth eang. Mae Adam Beard ei hun yn gyn-fyfyriwr y Coleg, ac yn gyn-enillydd yn y Gwobrau Chwaraeon. Ymhlith enillwyr y gwobrau eleni mae ‘Chwaraewr y Flwyddyn’ Tiaan Thomas-Wheeler sydd wedi’i ddewis ar gyfer carfan rygbi dan 20 oed Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc sydd ar ddod.
Yn siarad cyn y gwobrau, meddai Tiaan: “Rwy’ wrth fy modd i gael fy newis i chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc. Rwy’ wedi gweithio’n galed iawn ac yn edrych ymlaen yn arw at brofi fy hun yn erbyn goreuon y byd. Ond does dim amheuaeth na allwn fod wedi gwneud hyn heb gymorth Coleg Castell-nedd sydd wedi fy helpu i reoli fy ymrwymiadau rygbi ac addysg.”
Gwnaeth enillydd arall, Josh Price ddod â dwy fedal aur adref gyda ef am sgïo slalom ym Mhencampwriaethau Alpaidd Cymru a gynhaliwyd yn y Swistir yn gynharach eleni. Mae Holly Noon, enillydd y wobr ‘Chwaraewraig y Flwyddyn’, yn chwaraewraig pêl-rwyd ac yn gapten ar dîm Pêl-rwyd Colegau Prydain.
Dywedodd y darlithydd chwaraeon, Helen Jones, a drefnodd y noson:
“Mae’n wych i allu llongyfarch yr holl fyfyrwyr ar y gwaith caled a’r ymroddiad y maent wedi’u dangos. Mae’r Gwobrau Chwaraeon yn gyfle i ddathlu’r ymdrech y maent wedi’i rhoi i mewn i’w hastudiaethau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o sicrhau llwyddiant y digwyddiad hwn, gan gofio’n arbennig wrth gwrs noddwyr y noson.”
Wedi’u rhestru isod mae enillwyr gwobrau’r noson:
Chwaraewyr Rhyngwladol Academi Chwaraeon Llandarcy
Ryan Thomas – Criced
Josh Price – Sgïo
Lauren Evans – Codi Pwysau
Gwobr Kieran Sparrow
Lewis Mahoney
Gwobr Chwaraewr y Flwyddyn Hydrachill
Tiaan Thomas-Wheeler
Chwaraewraig y Flwyddyn Elli Norkett Ponty Butchers
Hollie Noon
Y Chwaraewraig sydd wedi Gwneud y Cynnydd Mwyaf, Pêl-droed Menywod
Lucianna Lucianno
Chwaraewraig y Flwyddyn, Pêl-droed Menywod
Sophie Cardy
Trampolinydd y Flwyddyn
Alannah Horgan-Evans
Chwaraewraig y Flwyddyn, Rygbi Menywod
Ruth Lewis
Y Chwaraewraig sydd wedi Gwneud y Cynnydd Mwyaf, Rygbi Menywod
Sophie Sargeant
Chwaraewr Rygbi y Flwyddyn
Tiaan Thomas-Wheeler
Y Chwaraewr sydd wedi Gwneud y Cynnydd Mwyaf, Rygbi
William Pope
Chwaraewr Pêl-rwyd y Flwyddyn
Hollie Noon
Y Chwaraewr sydd wedi Gwneud y Cynnydd Mwyaf, Pêl-rwyd
Maddie Newton
Golffiwr y Flwyddyn
Morgan Grace
Chwaraewr Pêl-droed y Flwyddyn
Lewis Mahoney
Y Chwaraewr sydd wedi Gwneud y Cynnydd Mwyaf, Pêl-droed
Nathan Davies
Chwaraewr Criced y Flwyddyn
Sam Mogford
Y Chwaraewr sydd wedi Gwneud y Cynnydd Mwyaf, Criced
Ryan Thomas
Athletwr y Flwyddyn
Olivia Michael