Cyflwynir y ddarpariaeth Harddwch a Therapïau Cymhwysol yng Ngholegau Afan, Y Drenewydd a Bannau Brycheiniog. Cynigir cyrsiau ar bob lefel o Lefel 1 i Lefel 3. Mae ystod o gyrsiau rhan-amser a byr mewn colur, therapïau tylino a chymwysiadau esthetig technegol ar gael.

Salonau Gwallt a Harddwch Inspire

Mae gennym gyfleusterau gwallt a harddwch arbenigol rhagorol yng Ngholegau Afan, Bannau Brycheiniog a’r Drenewydd.

Mae ein salonau harddwch, trin gwallt ac amlbwrpas yn cynnig ystod o driniaethau o dorri a lliwio gwallt i drin ewinedd, estyniadau ewinedd acrylig, tylino’r corff a thriniaethau ad-amlinellu’r corff, siapio eiliau a newid gwedd electronig. Mae’r holl salonau ar agor i’r cyhoedd ac yn cynnig gwasanaeth o safon uchel am brisiau rhagorol.

CYSYLLTWCH Â’CH SALON AGOSACH I DREFNU APWYNTIAD:

Inspire Coleg Afan Ffôn: 01639 648582
Inspire Coleg Bannau Brycheiniog Ffôn: 01686 614484
Inspire Coleg Y Drenewydd Ffôn: 01686 614216