Nosweithiau Agored Haf 2019
Mehefin 26 – Coleg Agan, Colege Bannau Brycheiniog, Coleg y Drenewydd
Mehefin 27 – Coleg Castell-nedd, Coleg Pontardawe
4:30-7:30pm
Dewch i mewn! Ymunwch â ni yn ein Nosweithiau Agored a byddwn yn eich rhoi ar ben y daith. Bydd gennym staff arbenigol wrth law i roi cyngor ac arweiniad arbenigol ar gyrsiau, ceisiadau a bywyd yn y coleg.
P’un a ydych yn gadael yr ysgol neu ddychwelyd i addysg, mae gennym #Dewis:
- Amrywiaeth helaeth gyrsiau amser llawn
- Cyrsiau rhan amser sy’n gwella’ch sgiliau
- Cyrsiau Addysg Uwch, yn cynnwys cyrsiau Mynediad
Newydd yn 2019
Nid yw’n rhy hwyr!
Mae gennym gyrsiau newydd sbon yn dechrau yn 2019! Cliciwch ar y ddelwedd isod i gael gwybod rhagor.
Cyrsiau Amser Llawn
Gyda mwy na 40 Safon Uwch ac opsiynau galwedigaethol eang eu cwmpas, mae gennym #Dewis i bawb. Yn ein nosweithiau agored, bydd modd i chi:
• Darganfod mwy am y cyrsiau a’r pynciau sydd ar gael.
• Cael cyfle delfrydol (myfyrwyr a rhieni) i weld buddion astudio yng Ngrŵp Colegau NPTC.
• Cwrdd â thiwtoriaid y cwrs a gweld y cyfleusterau.
• Darganfod bywyd y tu allan i’r ystafell ddosbarth – sut mae’r coleg yn cynnig ‘ mwy nag addysg yn unig’.
Cyrsiau Rhan-amser
Ydych am uwchsgilio yn eich swydd bresennol, dychwelyd i ddysgu neu ddysgu er pleser yn unig?
Mae gennym gyrsiau addas ar gyfer pob lefel, yn dechrau drwy gydol y flwyddyn. Hefyd, rydym ar hyn o bryd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sy’n gwella sgiliau am ddim.
Cyrsiau Addysg Uwch
Rydym yn falch ein bod wedi datblygu nifer o raglenni gradd eang eu cwmpas mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau Addysg Uwch o fri. Cynlluniwyd ein holl gyrsiau addysg uwch gyda chyflogaeth a gyrfaoedd yn y dyfodol mewn golwg ac awn ati i roi’r profiad a’r wybodaeth orau i’n graddedigion i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith.
Mae ein holl gyrsiau Addysg Uwch yn:
• Lleol
• Fforddiadwy
• Hyblyg
• Cefnogol
Mae gennym hefyd ystod o gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch, wedi’i gynllunio i baratoi dysgwyr heb gymwysterau traddodiadol ar gyfer astudio yn y brifysgol.
Mae gennym gwrs Cyn-fynediad a nifer o gyrsiau Mynediad mewn Gofal Iechyd (llwybrau i Nyrsio a Bydwreigiaeth) a’r Dyniaethau (llwybrau i Addysgu).