Gwobr Lefel 3 mewn Goruchwylio Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl (Rhan-Amser)

Crynodeb o’r cwrs

Mae materion iechyd meddwl yn y gweithle yn bodoli ac yn effeithio ar bob unigolyn. Bellach, yn fwy nag erioed, anogir busnesau i berchnogi lles gweithwyr a gallwn eich helpu i gyflawni hyn.

Mae’r cwrs yn cwmpasu cynnwys cyrsiau Cymorth Cyntaf Lefel 1 a Lefel 2 ar gyfer Iechyd Meddwl ac yn ymgorffori’r cynllun gweithredu cymorth cyntaf ar gyfer iechyd meddwl a sut i weithredu diwylliant iechyd meddwl cadarnhaol yn y gweithle. Bydd dysgwyr yn ennill y wybodaeth i nodi pryd y gall fod gan berson gyflwr iechyd meddwl ac yn gwybod i ble y gallant fynd i gael help.

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at hyfforddwyr, aseswyr a goruchwylwyr yn y gweithle.

Mae cyllid ar gael, yn amodol ar gymhwysedd, cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.

  • Gofynion Mynediad

    Dim

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Yn darparu dysgwyr yn y gweithle i nodi cyflyrau iechyd meddwl.

  • Modiwlau’r cwrs

    Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu'r pynciau a ganlyn:

    - Beth yw Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl
    - Nodi cyflyrau iechyd meddwl
    - Rhoi cyngor a dechrau sgwrs
    - Cynllun gweithredu Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl
    - Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl yn y gweithle
    - Straen, pryder, iselder ysbryd a hunanladdiad
    - Anhwylderau bwyta
    - Seicosis
    - Anhwylder personoliaeth
    - Sgitsoffrenia
    - Hunan-niweidio
    - Cyffuriau ac alcohol
    - PTSD
    - Anhwylder deubegwn

  • Dull Asesu

    Asesir y cymhwyster trwy ystod o ddulliau gan gynnwys asesiadau ymarferol, cwestiynau agored a amlddewis.

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

2D

Fee

£220.00 – funding available, subject to eligibility