Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unigolion sydd â chymhwyster Rheoliadau Dwr ac sy’n dymuno ennill y wybodaeth angenrheidiol i osod a chynnal a chadw systemau chwistrellu tân domestig.
Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant chwistrellu a’r rhai sy’n dymuno uwchsgilio, newid proffesiwn neu ar gyfer cwmnïau sy’n dymuno ymgymryd â DPP gyda’u gosodwyr.
Mae’r cwrs hwn yn digwydd dros 2 ddiwrnod:
– Bydd Diwrnod 1 yn cael ei gyflwyno ar-lein trwy Microsoft Teams
– Bydd Diwrnod 2 yn Ymarferol a gyflwynir yn bersonol yng Ngholeg Afan. Cadarnheir dyddiad yr ymarferol ar ôl derbyn y ffurflen archebu.
-
Gofynion Mynediad
Tystysgrif Rheoliadau Dwr Oer a/neu gymhwyster plymio Lefel 3.
-
Modiwlau’r cwrs
Mae cynnwys y cwrs yn cynnwys:
- Paratoi'r amgylchedd gwaith ar gyfer gosod systemau chwistrellu awtomatig
- Gallu gosod a chomisiynu system chwistrellu tân awtomatig
- Cynnal gwiriadau gwasanaeth a chynnal a chadw ar system chwistrellu tân mewn anheddau domestig
- Gofynion y system
- Deddfwriaeth
- BS9251 - y prif Safon Brydeinig sy'n cwmpasu chwistrellwyr tân yn y wlad
- Y gwahanol fathau o bennau chwistrellu tân a chysylltiadau dwr -
Dull Asesu
Asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig.
-
Costau Ychwanegol
Ffi Deunyddiau £300.
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
3D
Fee
£0 – funding available, subject to eligibility