Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs undydd hwn yn eich cyflwyno i nodweddion a swyddogaethau hanfodol Microsoft Excel. Fe’i cynlluniwyd i’ch helpu i ddod yn ddefnyddiwr hyderus ac effeithiol o feddalwedd taenlenni, gan eich galluogi i drefnu data, cynnal cyfrifiadau sylfaenol a chyflwyno gwybodaeth yn glir. Mae’r cwrs hefyd yn darparu sylfaen ar gyfer symud ymlaen i gyrsiau Excel Canolradd ac Uwch.
Diwrnod ac amser: Dydd Mercher, 9.00am i 5.00pm
Dyddiad dechrau: Sawl dyddiad ar gael
Hyd: Un Diwrnod
Dull cyflwyno: Ar-lein
I bwy mae’r cwrs hwn?
• Oedolion sy’n newydd i Microsoft Excel neu sydd eisiau meithrin sgiliau taenlenni sylfaenol
• Dysgwyr sydd eisiau gwella eu sgiliau digidol ar gyfer gwaith, astudio neu ddefnydd personol
• Y rhai sy’n bwriadu symud ymlaen i gyrsiau Excel Canolradd neu Uwch
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
• Sut i greu, cadw a threfnu taenlenni
• Sut i fewnbynnu, fformatio a rheoli testun a data rhifiadol
• Sut i ddefnyddio swyddogaethau sylfaenol, cyfrifiadau, siartiau a graffiau
Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn gallu defnyddio Excel yn hyderus i storio, trefnu a chyflwyno data yn gywir ar gyfer tasgau bob dydd.
-
Gofynion Mynediad
Dim gofynion mynediad ffurfiol
-
Crynodeb o'r canlyniadau
Mae'r cwrs hwn yn cefnogi datblygu sgiliau digidol ar gyfer ystod eang o rolau swyddi lle mae angen defnyddio taenlenni. Gallwch symud ymlaen i gyrsiau Excel Canolradd ac Excel Uwch i ddatblygu eich sgiliau ymhellach ar gyfer swyddi, gweinyddiaeth, cyllid neu rolau sy'n gysylltiedig â data.
-
Modiwlau’r cwrs
• Creu a chadw taenlenni
• Mewnbynnu a fformatio data
• Gwneud cyfrifiadau a gwirio canlyniadau
• Creu siartiau a graffiau i gyflwyno data -
Dull Asesu
• Tasgau ymarferol yn dangos defnydd o feddalwedd taenlenni
• Asesu gwybodaeth sylfaenol drwy weithgareddau penodol -
Costau Ychwanegol
Dim costau ychwanegol
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
Undydd
Fee
£30.00 – funding available, subject to eligibility