Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n gyfrifol am ofalu am blant a babanod gan ddarparu’r wybodaeth a’r cymhwysedd ymarferol i ddelio ag ystod o sefyllfaoedd cymorth cyntaf pediatrig. Mae’r cymhwyster hwn yn bodloni gofynion Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar.
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
– Deall rôl a chyfrifoldebau’r swyddog cymorth cyntaf pediatrig
– Gallu asesu sefyllfa o argyfwng yn ddiogel
– Gallu darparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn nad yw’n ymateb
– Gallu darparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn sy’n tagu
– Gallu darparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn â gwaedu allanol
– Gwybod sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban neu blentyn sy’n dioddef o sioc
– Gwybod sut i roi cymorth cyntaf i faban neu blentyn â brathiadau, pigiadau a mân anafiadau
-
Gofynion Mynediad
Mae'r cymhwyster ar gael i ddysgwyr 16 oed neu hyn.
Argymhellir y dylai dysgwyr feddu ar o leiaf Lefel 1 mewn llythrennedd neu gyfwerth i ymgymryd â'r cymhwyster hwn.
-
Crynodeb o'r canlyniadau
O ennill y cymhwyster cymorth cyntaf pediatrig brys hwn, gallai dysgwyr symud ymlaen i Ddyfarniad Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig.
Rydym hefyd yn cynnig cymwysterau mewn iechyd a diogelwch, diogelwch bwyd, diogelu a chymorth cyntaf ar gyfer iechyd meddwl pe bai dysgwyr yn dymuno arallgyfeirio.
-
Modiwlau’r cwrs
Mae'r cymhwyster yn ddilys am dair blynedd o'r dyddiad cyflawni. Argymhellir bod y dysgwr yn mynychu hyfforddiant gloywi blynyddol. Bydd angen i'r dysgwr gwblhau'r cwrs llawn eto i gymhwyso am dair blynedd arall
-
Dull Asesu
Asesir y cymhwyster trwy arddangosiad ymarferol a chwestiynu llafar cysylltiedig. Rhaid i ddysgwr gwblhau pob arddangosiad ymarferol yn llwyddiannus ac ateb y cwestiynau llafar yn gywir i ennill y cymhwyster.
Lleoliad
Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes
Course length
1D