Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Hyfforddi Chwaraeon (Llawn Amser)

Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff yn gymhwyster 2 flynedd, sy’n cyfateb i 3 Safon Uwch.

Mae hwn yn gwrs delfrydol i wella’ch gwybodaeth ddamcaniaethol ynghylch llawer o elfennau ymarferol ac elfennau ar wyddor chwaraeon gan gynnwys; cadw’n heini ac yn iach, datblygu fel hyfforddwr a chynnal digwyddiadau chwaraeon. Mae gofyn i ddysgwyr ddangos brwydfrydedd, dysg a chymhelliant ym mhob uned i gwblhau’r amrywiol asesiadau a gwaith cwrs drwy gydol y cymhwyster. Nid oes arholiadau yn y cymhwyster hwn. cyfwerth â 3 Safon Uwch, fodd bynnag mae’n ofynnol i ddysgwyr gwblhau’r holl asesiadau penodedig erbyn y dyddiadau cau gofynnol. Mae unedau’n cynnwys: Hyfforddiant Ffitrwydd, Maeth Chwaraeon, Profi Ffitrwydd a Hyfforddi Chwaraeon.

Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol fel Pêl-foli, Pêl-droed, Pêl-rwyd a Rygbi. Mae unedau’n cynnwys: Anatomeg a ffisioleg, hyfforddiant a rhaglennu ffitrwydd, profi ffitrwydd, maeth chwaraeon a hyfforddi chwaraeon. Mae cymwysterau ychwanegol yn cynnwys Dyfarniad Arweinwyr Chwaraeon a dyfarniadau NGB eraill fel; arweinwyr FAW, arweinwyr WRU, ysgogwyr tenis (lle y bo’n berthnasol).

Byddwch yn datblygu eich sgiliau a’ch rhinweddau mewn hyfforddi, arweinyddiaeth a threfnu digwyddiadau trwy weithio ochr yn ochr â llawer o’n partneriaid; cynnal gwyliau a gweithio gyda chwaraewyr ifanc selog.

  • Gofynion Mynediad

    4 TGAU gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn pwnc addas. Yn ddelfrydol, byddwch wedi ymgymryd â TGAU mewn Addysg Gorfforol.

  • Crynodeb o'r canlyniadau

    Llwybrau dilyniant i gyrsiau lefel uwch neu ennill sgiliau ar gyfer cyflogaeth.

  • Dull Asesu

    Gall myfyrwyr symud ymlaen i gwrs Gradd Addysg Uwch neu Radd Sylfaen mewn Hyfforddi Chwaraeon yng Ngrŵp Colegau NPTC.

    Bydd y cymhwyster hwn hefyd yn caniatáu mynediad i ddiwydiant, y gwasanaethau cyhoeddus a meysydd eraill sy'n ymwneud â chwaraeon.

  • Costau Ychwanegol

    Bydd costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r cwrs.

Lleoliad

Lleoliadau ar draws Cymru neu’n fewnol yn lleoliad eich busnes

Course length

2 Flynedd

Fee

£0 – funding available, subject to eligibility