Y Broses Ddethol

Y BROSES DETHOL

Bydd y broses ddethol yn dibynnu ar y math o swydd wag rydych chi wedi gwneud cais amdani. Bydd pob swydd wag yn cynnwys cyfweliad panel ac er mwyn cynnal gwerthusiad llawn o ymgeiswyr, bydd y broses ddethol yn cynnwys, os yw’n briodol, offer mesur ychwanegol e.e. cyflwyniad a / neu dasg gysylltiedig â gwaith.

Gofynnir i bob ymgeisydd ddod â’r ddogfennaeth sy’n ofynnol o dan Adran 8 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996. Darperir manylion y ddogfennaeth yn y llythyr gwahoddiad i gyfweliad.

Bydd y llythyr yn eich gwahodd i ddod i gyfweliad hefyd yn eich cynghori ynghylch y lleoliad. Am gyfarwyddiadau i’r campws angenrheidiol, edrychwch ar ein adran campws a chlicio ar y lleoliad penodol.