Edau Newid: Mae Grŵp Colegau NPTC yn Derbyn Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol 2026 o Fri

Cydnabuwyd Grŵp Colegau NPTC gan Wobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol 2026 am ei raglen datblygu staff arloesol sy’n cefnogi cynaliadwyedd, ffasiwn foesegol a dylunio cylchol.

Mae Gwobrau Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol, a sefydlwyd gan y Sefydliad City & Guilds ac a gefnogir gan EHB y Dywysoges Frenhinol, yn cydnabod cyflogwyr a sefydliadau sy’n dangos ymrwymiad aruthrol i ddysgu a datblygu ac sy’n gallu dangos sut mae buddsoddi mewn pobl yn darparu effaith hirbarhaol ar fusnes a’r gymdeithas.

Derbyniodd Grŵp Colegau NPTC y wobr mewn cydnabyddiaeth o’i raglen datblygu broffesiynol wedi’i theilwra’n arbennig, a ddyluniwyd i gryfhau’r gallu i addysgu mewn cynaliadwyedd, ffasiwn foesegol a dylunio cylchol. Roedd y fenter yn galluogi cyflwyno’r cymhwyster Lefel 3 mewn Ffasiwn Gynaliadwy yn llwyddiannus, ac wedyn y ddarpariaeth ar Lefel 1 a Lefel 2. Dyma’r coleg AB cyntaf yn y DU i greu pecyn hyfforddi wedi’i deilwra’n arbennig ar y cyd â’r Ganolfan ar gyfer Ffasiwn Gynaliadwy, sy’n rhan o Goleg Ffasiwn Llundain.

Mae’r rhaglen hon wedi darparu buddion arwyddocaol ar gyfer staff a dysgwyr, gan wella cyfleoedd addysgol, gwella dilyniant i addysg uwch a chyflogaeth a chefnogi amcanion sefydliadol a chymunedol ehangach sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a datblygu sgiliau.

Mae’r wobr yn dathlu ymrwymiad y Coleg I sicrhau bod gan gydweithwyr yr wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i ymateb i anghenion cyfoes diwydiant a pharatoi dysgwyr ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol o fewn i’r sector ffasiwn a chynaliadwyedd sy’n newid yn gyflym.

Trwy fuddsoddi mewn datblygu staff ac ymgysylltu â diwydiant, mae’r Coleg wedi cryfhau ei safle fel arweinydd ym meysydd addysg ffasiwn gynaliadwy a thecstilau. Cyfrannodd hyfforddiant staff yn uniongyrchol at gynnig llwyddiannus i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, a oedd yn galluogi creu Academi Ffasiwn a Thecstilau’r Drenewydd. Roedd y Coleg hefyd yn hyrwyddo cynaliadwyedd bellach trwy groesawu’r Wythnos Genedlaethol Ffasiwn Gynaliadwy a darparu rhaglen Gweithio â Gwlân a oedd yn dathlu sgiliau traddodiadol ar yr un pryd ag archwilio cymwysiadau cyfoes. Enillodd dysgwyr hefyd brofiad ymarferol gwerthfawr trwy frîff fyw ar ddull brîff diwydiannol go iawn, wrth greu hetiau a oedd yn cael eu rhoi wedyn i’r DPJ Foundation I gefnogi ei waith allweddol wrth hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant ffermwyr.

Wrth gyfeirio at y cyflawniad, dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC: “Mae derbyn Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol yn gyflawniad ffantastig ac yn achlysur balch ar gyfer Grŵp Colegau NPTC. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein pobl a sicrhau bod gan ein staff y sgiliau, yr hyder a’r cyfleoedd sydd eu hangen i ddarparu profiadau a deilliannau rhagorol ar gyfer ein dysgwyr.

Mae’r rhaglen Ffasiwn Gynaliadwy yn dangos sut mae arloesi, cydweithredu a datblygu’n broffesiynol yn gallu creu effaith ystyrlon nid yn unig ar gyfer ein cydweithwyr a’n myfyrwyr, ond ar gyfer y cymunedau ehangach yr ydyn ni’n eu gwasanaethu. Hoffwn ddweud diolch i bawb sydd wedi cyfrannu am eu gweledigaeth, eu hymrwymiad a’u gwaith called wrth wneud i’r fenter arobryn hon mor llwyddiannus.”

Mae’r wobr yn tynnu sylw at ymdrechion cydweithredol staff ar draws y Coleg a oedd wedi datblygu, darparu a hyrwyddo’r rhaglen, yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu, tyfu ac arloesi.
Trwy gyfuno datblygu’r gweithlu â ffocws cryf ar gynaliadwyedd, mae Grŵp Colegau NPTC wedi cryfhau ei gynnig cwricwlwm ar yr un pryd â chynorthwyo dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Ynglŷn â Grŵp Colegau NPTC
Grŵp Colegau NPTC yw un o’r darparwyr addysg bellach mwyaf yng Nghymru, sy’n darparu cyfleoedd addysg a hyfforddiant sy’n cefnogi dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau ar draws y fro. Trwy arloesi, cydweithredu a buddsoddi mewn pobl, mae’r Coleg yn ymrwymedig i helpu unigolion i gyflawni eu potensial a bodloni anghenion sgiliau’r dyfodol.