
Mae Grŵp Colegau NPTC wedi cymryd cam sylweddol tuag at sefydlu Academi Hyfforddi Ynni Gwynt Arnofiol ar y Môr (FLOW) flaenllaw’r DU gyda phenodiad Celtic Sea Power i gynnal astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr.
Mae’r garreg filltir hon yn dilyn cais llwyddiannus y Coleg am gyllid drwy rownd gychwynnol Cronfa Sbarduno’r Gadwyn Gyflenwi Ystad y Goron, gan alluogi ymchwil fanwl i dirwedd gyfredol hyfforddiant FLOW. Bydd yr astudiaeth yn asesu’r darpariaethau hyfforddi presennol, yn nodi bylchau posibl, ac yn pennu’r math o gyfleusterau sydd eu hangen, eu lleoliad delfrydol, a’r costau cysylltiedig.
Gan nodi hyn fel achlysur trawsnewidiol, pwysleisiodd Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC, Mark Dacey, rôl hanfodol yr Academi wrth gefnogi cymunedau a diwydiannau lleol:
“Mae’r fenter hon yn gam mawr ymlaen i sicrhau bod y DU yn parhau i fod ar flaen y gad o ran y trawsnewidiad ynni adnewyddadwy, gyda’r sgiliau a’r seilwaith cywir yn eu lle i gefnogi twf y diwydiant ynni gwynt ar y môr. Mae’r cyfleoedd i’n cymunedau a’n rhanddeiliaid yn ddiddiwedd ac mae Grŵp Colegau NPTC wedi ymrwymo i gefnogi sgiliau gwyrdd a thwf swyddi i Gymru yn y chwyldro diwydiannol gwyrdd yn ogystal â chreu cadwyn gyflenwi gadarn a gweithlu medrus sy’n barod ar gyfer heriau’r sector FLOW.”
Pwysleisiodd Steve Jermy, Prif Weithredwr Celtic Sea Power, y cyfleoedd sydd i ddod: “Mae ynni gwynt arnofiol ar y môr yn cynrychioli cyfle i greu cyflogaeth fedrus o ansawdd uchel ar draws rhanbarth y Môr Celtaidd. Yn Celtic Sea Power, rydym yn llawn cyffro i fod yn arwain y prosiect pwysig hwn ar adeg mor dyngedfennol i’r sector, gyda 4.5GW o gapasiti i’w ddyfarnu eleni. Mae Grŵp NPTC eisoes yn hyfforddi pobl fedrus ac uchelgeisiol iawn ar gyfer diwydiant Cymru, a thrwy ennill cyllid gan Ystad y Goron maent wedi dangos eu huchelgais i gymryd rhan flaenllaw wrth ddarparu sgiliau FLOW i’r rhanbarth. Felly rydym yn llawn cyffro i weithio gyda nhw, a rhanddeiliaid lleol a rhanbarthol, i gyflwyno astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr i Academi Hyfforddi FLOW sy’n wynebu’r dyfodol ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, a fydd yn gyfle allweddol i ddatgloi buddsoddiad a thalent ymhell i’r dyfodol.”
Dywedodd Rebecca Williams, Cyfarwyddwr y Gwledydd Datganoledig yn Ystad y Goron: “Mae gan y Môr Celtaidd y cyfle i chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi trawsnewidiad ynni glân y DU drwy gynnal tair fferm wynt arnofiol ar y môr newydd, fydd yn gallu cynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i bweru mwy na phedair miliwn o gartrefi. Bydd prosiectau fel Academi Hyfforddi NPTC sy’n canolbwyntio ar y gweithlu sydd ei angen i gyflawni a chynnal y seilwaith hanfodol hwn yn sicrhau bod cymunedau yng Nghymru mewn sefyllfa gref i fanteisio ar y manteision economaidd a ddaw yn sgil defnyddio ynni gwynt ar y môr oddi ar ein harfordiroedd.”
Bydd lansiad y prosiect ar 12 Mai, lle bydd rhagor o wybodaeth am y fenter yn cael ei datgelu.