Llwyddiant Medal Aur i Curtis Rees

Roedd Curtis Rees, prentis weldio o Goleg Castell-nedd (rhan o Grŵp Colegau NPTC) ymhlith y bobl ifanc â’r sgiliau gorau yn y wlad a gafodd eu cydnabod yn Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills y llynedd (2019).

Curtis, sydd o Resolfen, yw’r myfyriwr cyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill medal aur bwysig wrth iddo ddod i’r brig yn ei ddisgyblaeth yn yr NEC yn Birmingham.

Roedd y gystadleuaeth fawreddog yn cynnwys mwy na 500 o brentisiaid a myfyrwyr yn cystadlu mewn dros 70 o ddisgyblaethau er mwyn bod y gorau yn y DU mewn llwybr galwedigaethol.

Roedd y rowndiau terfynol cenedlaethol yn benllanw chwe blynedd o waith caled a chystadleuaeth i Curtis. Eglurodd ei ddarlithydd Robert Evans: “Mae Curtis wedi bod yn fyfyriwr rhagorol am y chwe blynedd diwethaf. Dechreuodd yn 16 oed ar gwrs City and Guilds gyda’r nos, lle darganfu’n gyflym fod ganddo ddawn naturiol ar gyfer weldio. Trefnwyd prentisiaeth trwy hyfforddiant Llwybrau – darparwr dysgu seiliedig ar waith y Coleg – gydag Afon Engineering. Mae wedi ennill ‘Weldiwr Cymru’ ddwywaith a Rownd Ranbarthol SkillWeld yn 2019 a’i harweiniodd i WorldSkills UK”.

Mae cystadleuaeth SkillWeld yn dechrau gyda rowndiau rhanbarthol ledled y wlad; maent yn cynnwys uniadau safonol mewn pibell a phlât mewn safleoedd weldio anodd. Mae alwminiwm a deunyddiau gwrthstaen hefyd yn cael eu hymgorffori, gan ddefnyddio prosesau arc-trydan. Mae’r gystadleuaeth yn digwydd o fewn amser penodol ac mae beirniaid allanol yn marcio pob darn prawf a dyfernir marc terfynol i bob cystadleuydd. Mae’r deg cystadleuydd gorau yn cael eu gwahodd i rownd derfynol WorldSkills UK Cenedlaethol yn Birmingham, sy’n cael ei chynnal dros bedwar diwrnod. Mae gan y cystadleuwyr dri darn prawf i’w cwblhau ar y diwrnod cyntaf, ac mae’r rhain yn destun pelydr x a dyfernir marciau am y nifer isaf o ddiffygion a gynhyrchir. Bu i Curtis ragori yn y tri darn.

Ar yr ail ddiwrnod, mae’n rhaid i’r cystadleuwyr wneud cynhwysydd gwasgedd gan ddefnyddio arc-weldio metal â llaw, weldio nwy anadweithiol twngsten ac arc-weldio gwifren solet a ffflwcs yn y canol. Mae’r cynhwysydd yn cael ei archwilio yn weledol ac yna yn destun pwysedd prawf o 75 bar sydd tua 1200 pwys y fodfedd sgwâr! Roedd y cynhwysydd pwysedd y gwnaeth Curtis ei weldio ddal y pwysedd hynny’n gyfforddus. Cafodd dau gynhwysydd arall eu gwneud allan o alwminiwm a dur gwrthstaen; cafodd y rhain eu marcio’n weledol yn unig. Yna dyfarnwyd marciau terfynol am lendid a iechyd a diogelwch.

Cyflawnodd Curtis sgôr gyffredinol o 92.25% allan o 100 i hawlio ei fedal aur, y gyntaf i Grŵp Colegau NPTC mewn unrhyw gystadleuaeth genedlaethol.

Ychwanegodd Robert: “Roedd ei ymgais yn WorldSkills UK yn gromlin ddysgu fawr; mae ei ymroddiad a’i ymrwymiad i’r rhaglen hyfforddi bwrpasol a ddyfeisiwyd ar ei gyfer wedi bod heb ei ail. Mae Curtis wedi datblygu i fod yn weldiwr rhagorol sydd wedi ennill llu o gymwysterau weldio gyda’i gwmni”.

Roedd Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith Pathways, Alec Thomas wrth ei fodd â llwyddiant Curtis a dywedodd: “Mae hyfforddiant Pathways yn hynod o falch o gyflawniad Curtis.  Yn ystod ei brentisiaeth, mae Curtis wedi rhagori yn yr elfennau academaidd ac ymarferol sydd wedi cefnogi ei ymgyrch. Mae brwdfrydedd Curtis dros weldio ac ar gyfer WorldSkills UK yn heintus ac mae eisoes yn annog prentisiaid newydd i gymryd rhan.  Mae hyn yn wych i’r diwydiant a busnesau lleol, a bydd yn helpu i gefnogi datblygiad cyfleoedd newydd i bobl ifanc yn yr ardal.”

Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn rhoi i bobl ifanc y sgiliau o’r radd flaenaf sydd eu hangen i helpu busnesau Prydain i gystadlu ar lefel fyd-eang.

Dywedodd Ben Blackledge, Dirprwy Brif Weithredwr WorldSkills UK: “Mae hon yn foment sy’n newid bywydau’r bobl ifanc yma … y rhain yw’r genhedlaeth newydd o gyflawnwyr uchel a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i gyflogwyr y DU. “Rydym yn hynod falch o bob un ohonyn nhw – ni allai safon y gystadleuaeth fod wedi bod yn uwch.”

I gydnabod llwyddiant Curtis, daeth partneriaid offer y Coleg ESAB – un o arweinwyr y byd wrth gynhyrchu offer weldio a thorri – i Goleg Castell-nedd i gyflwyno set weldio manyleb uchel ESAB REBEL 235 aml-broses ac offer atodol iddo, gwerth dros £3000.

Ar ôl cael amser i fyfyrio ar ei gyflawniad anhygoel, dywedodd Curtis wrthym: “Rwy’n falch iawn o’m llwyddiant, roedd yn nod enfawr i mi. Fe wnes i ddechrau ymwneud â weldio’n gystadleuol tua thair blynedd yn ôl, gan ddechrau gyda chystadlaethau llai o gwmpas Cymru. Wrth i mi symud ymlaen, gofynnodd fy nhiwtor i mi a fyddwn i’n hoffi ceisio am WorldSkills UK. Roedd myfyriwr blaenorol (Declan Kenny) wedi ennill medal arian mewn WorldSkills UK blaenorol, ac roeddwn am geisio efelychu ei lwyddiant a bwrw ymlaen at yr aur. Roedd paratoi ar gyfer y gystadleuaeth yn galed; am ddwy flynedd, bu’n rhaid i mi hyfforddi’n galed iawn, gan gynnwys yn gynnar yn y bore a nosweithiau hwyr i gyrraedd y lefel sgiliau ofynnol. Mae’n dal i deimlo’n afreal ond nawr bod gen i’r fedal aur yn fy llaw mae’n profi fy mod wedi cyflawni fy nod”.

Mae gan Curtis gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol. Mae ennill y fedal aur wedi agor drysau iddo, gyda nifer o gwmnïau blaenllaw yn awyddus i’w gyflogi. Fodd bynnag, mae gan Curtis ddyheadau i redeg ei fusnes ei hun ym maes weldio strwythurol, lle mae wedi gweld bwlch yn y farchnad. Wedi dweud hynny, nid yw eto wedi diystyru dychwelyd i’r coleg un diwrnod fel darlithydd, gan ei fod yn awyddus i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weldwyr i ddilyn yn ôl ei draed.